S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mwy o rygbi’n fyw ar wefan S4C

10 Ionawr 2013

Bydd S4C yn ymestyn ei gwasanaeth i ddilynwyr rygbi yn yr wythnosau nesaf gyda mwy o gemau’n cael eu dangos yn fyw ar-lein.

Dangosir gêm y Dreigiau yn erbyn Wasps yng Nghwpan Amlin yn fyw ar wefan S4C nos Iau nesaf, 17 Ionawr am 7.45pm gydag ailddangosiad ar brif sianel S4C yn hwyrach am 11.05pm.

Ddydd Mercher 23 Ionawr bydd y cyntaf o gemau’r flwyddyn yn Rygbi’r Colegau yn cael ei dangos yn fyw ar-lein am 2.25pm. Dangosir y gêm - rhwng Morgannwg a Llanymddyfri – yn llawn ar S4C am 11.10pm. Ar ddydd Mercher 30 Ionawr bydd y gêm Rygbi’r Colegau rhwng Gŵyr a Castell-nedd Port Talbot yn fyw ar wefan S4C am 2.25pm ac am 11.10pm ar y brif sianel.

Mae doniau gorau rygbi dan-18 Cymru o wyth coleg yn cystadlu am deitl Pencampwriaeth y Colegau a chewch ddilyn yr holl gyffro’n fyw ar wefan S4C. Daeth chwaraewyr Cymru, George North a Scott Williams i sylw o feithrinfa Rygbi’r Colegau.

Meddai Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon S4C: "Datblygiad cymharol newydd yw darlledu gemau rygbi yn fyw ac ecsgliwsif ar y we ac mae’n ddatblygiad hynod o gyffrous.

"Mae rygbi’r colegau yn denu llawer o gefnogwyr ac yn awr mae llwyfan arall i ddoniau a thalent y gwŷr ifanc sy’n cynrychioli’r colegau. Pwy a ŵyr, efallai mai rhai ohonyn nhw fydd yn disgleirio ar y llwyfan rhyngwladol yn y blynyddoedd sydd i ddod?"

Cwpan Amlin: Dreigiau v Wasps – 17 Ionawr S4C ar-lein 7.45pm/S4C 11.05pm

Rygbi’r Colegau: Morgannwg v Llanymddyfri – 23 Ionawr S4C ar-lein 2.25pm/S4C 11.10pm

Rygbi’r Colegau: Gŵyr v Castell-nedd Port Talbot – 30 Ionawr S4C ar-lein 2.25pm/S4C 11.10pm

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?