S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wrecsam v Gainsborough i’w dangos yn fyw ar S4C

07 Chwefror 2013

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd gêm Wrecsam yn rownd gynderfynol Tlws FA Lloegr yn cael ei dangos yn fyw ar y sianel.

Bydd Wrecsam yn wynebu Gainsborough Trinity ar ddydd Sadwrn 16 Chwefror - yn y cyntaf o ddau gymal yn y rownd gynderfynol.

S4C fydd yr unig sianel deledu i ddangos y gem yn fyw gyda’r gic gyntaf am 12.45 (y rhaglen yn dechrau am 12.30) a bydd rhagor o bêl-droed i ddilyn wrth i Fangor herio Port Talbot yn Uwch Gynghrair Cymru yn fyw am 15.00.

Yn ystod y gêm, fe fydd modd i wylwyr wrando ar y sylwebaeth Gymraeg neu ddewis y sylwebaeth Saesneg drwy’r botwm coch. Bydd y gêm hefyd yn fyw ar wefan S4C ac ar gael am 35 diwrnod wedyn ar s4c.co.uk/clic

Meddai Comisiynydd Chwaraeon a Phennaeth Darlledu S4C, Geraint Rowlands:

“Mae’n newyddion gwych i S4C ein bod ni’n gallu cynnig y gêm fawr yma i’n cynulleidfaoedd - ac yn newyddion gwych hefyd i ddilynwyr pêl-droed drwy Gymru.

“Mae hon yn gêm bwysig iawn i Wrecsam, a bydd hi’n allweddol wrth iddyn nhw geisio cael lle yn y rownd derfynol yn Wembley ym mis Mawrth. Mae cefnogwyr pêl-droed ar draws Cymru’n cydnabod pa mor dda mae Wrecsam yn perfformio eleni a bydd cryn dipyn o gyffro am y gêm.”

Fe fydd uchafbwyntiau’r ail gymal i’w gweld ar S4C ar Sgorio ar nos Lun 25 Chwefror am 10.00.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?