S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mae Pethe'n newid

22 Chwefror 2013

Cyflwynydd newydd, arddull newydd a digonedd o straeon newydd o fyd y Celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt – dyma Pethe ar ei newydd wedd.

Lisa Gwilym fydd yn dod â ffilmiau, dramâu, celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, a phopeth arall sy'n dod dan ambarel lliwgar y Celfyddydau i ni bob wythnos ar Pethe, gyda'r rhaglen gyntaf am 9.30 Nos Lun, 11 Mawrth.

“Mae cymaint i’n diddori neu roi adloniant i ni yn y byd sydd o’n cwmpas. Mae ‘na fwrlwm go iawn ar draws y celfyddydau yng Nghymru a’n gwaith ni bob wythnos ar Pethe fydd adlewyrchu hynny.

"Mae’r deinamig ar y rhaglen yn cynnig cyfuniad hyfryd o’r newydd a’r traddodiadol a phob math o amrywiaethau sy’n cadw bywyd yn ddiddorol,” meddai Lisa, a ddaw'n wreiddiol o Henllan yn Nyffryn Clwyd, ac sy'n wyneb a llais cyfarwydd yng Nghymru bellach wedi iddi gyflwyno nifer o raglenni ar S4C a chyflwyno ei rhaglen radio ei hun ers nifer o flynyddoedd.

"Dwi'n meddwl bod edrych y tu hwnt i Gymru yn bwysig, ond edrych allan trwy lygaid Cymreig. Mae o'n fyd llawer llai erbyn hyn, ac mae'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n rhan ohono fo.

"Dwi'n gobeithio gofyn y cwestiynau pwysig a chael yr atebion dadlennol. Mae 'na bethe difyr, pethe dadleuol, a phethe cyffrous iawn ar y gweill eleni!"

Mae'r gyfres eisoes wedi ennill ei phlwy am ddod a'r diweddara’ o fyd Celfyddydau Cymru i'r sgrin ond nawr mae'n fwriad gan Cwmni Da gamu ymhellach ac edrych, â pherspectif Cymreig, ar yr hyn sy'n digwydd y tu allan i Gymru yn ogystal â'r hyn sy'n digwydd ar ein carreg ddrws.

O Rhys Mwyn i Alan Llwyd, o R.S.Thomas i Roy Lichtenstein, o’r Theatr Genedlaethol i Oriel Mostyn, bydd Lisa’n crwydro’n eang er mwyn mynd ar galon y bwrlwm creadigol, ac er mwyn gofyn y cwestiynau pwysig.

Yn ogystal â'r hyn fydd i'w fwynhau ar y sgrin bydd Lisa hefyd yn recordio podcast wythnosol i wefan Pethe yn ogystal â blog a fersiynau etsynedig o rai eitemau, ac mae'r podcast cyntaf yn aros amdanoch chi – www.s4c.co.uk/pethe

Felly cofiwch ymuno ar gyfer y bennod gyntaf o'r gyfres newydd o Pethe, nos Lun, 11 Mawrth am 9.30.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?