S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dan 20 Cymru yn ffefrynnau clir i ennill y Gamp Lawn, yn ôl Gwyn Jones

15 Mawrth 2013

Bae Colwyn fydd ffocws dilynwyr rygbi y genedl heno (nos Wener 15 Mawrth) wrth i dîm Dan 20 Cymru fynd am y Gamp Lawn – ac yn ôl sylwebydd y gêm, sy’n cael ei darlledu’n fyw ar S4C, y tîm cartre yw’r ffefrynnau clir.

Gyda phob tocyn wedi ei werthu ar gyfer y gêm dyngedfennol ym Mharc Eirias yr unig le i weddill dilynwyr rygbi Cymru weld y cyffro yn fyw yw ar S4C, gyda'r rhaglen yn dechrau am 7.10.

"Maen nhw'n dîm rhagorol ac maen nhw wedi gwella gyda phob gêm hyd yn hyn," meddai cyn gapten tîm llawn Cymru, Gwyn Jones, fydd yn sylwebu ar y gêm i S4C (cic gyntaf am 7.35).

"Maen nhw'n chwarae rygbi mae pobl yn joio ei weld ac, o bob un o'r gemau rhyngwladol y penwythnos diwethaf, y gêm orau o bell ffordd oedd yr un rhwng tîm Dan 20 Cymru a'r Alban."

Mae Gwyn yn rhagweld gêm gyffrous arall heno wrth i'r bechgyn herio Lloegr gyda'r Gamp Lawn yn y fantol.

"Bydd hi'n gêm gyffrous a'r awyrgylch yn wych hefyd. Maen nhw wedi gwneud eu cartref ym Mharc Eirias erbyn hyn a chefnogaeth dda yn dod i'w cefnogi - a bydd cryn dipyn o Saeson yn y dorf hefyd mae'n siŵr," meddai Gwyn.

"Beth sy'n braf am y tîm Dan 20 yw, tra bod rygbi rhyngwladol ar y cyfan yn undonog, mae eu rygbi nhw yn dal i gynhyrfu. Mae mwy o ryddid ganddyn nhw ar y cae ac maen nhw'n chwarae gyda dychymyg a mwy o antur. Mae'r bwriad yna i fod yn fwy ymosodol a does dim ofn arnyn nhw. Maen nhw'n chwarae gyda hyder a nhw yw'r ffefrynnau clir i ennill nos Wener."

Gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C yng nghwmni Gwyn Jones a gweddill tîm cyflwyno BBC Cymru Wales – Gareth Roberts, Dwayne Peel, Derwyn Jones, Deiniol Jones a Dot Davies.

Peidiwch anghofio am gêm fawr arall y penwythnos wrth i'r prif dîm gwrdd â Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o fewn gafael i'r ddau dîm, ond mae pwysau ychwanegol ar Loegr sydd ar drywydd eu Camp Lawn gyntaf ers 2003. All y Cymry chwalu eu gobeithion?

Gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C brynhawn Sadwrn, 16 Mawrth, gyda'r rhaglen yn dechrau am 4.15 (cic gyntaf 5.00).

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?