S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Meibion Rhos yn cyrraedd rownd derfynol Côr Cymru

25 Mawrth 2013

Mae Côr Meibion Rhosllannerchrugog wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Côr Cymru 2013 ar S4C.

Yn y rhaglen ar nos Sadwrn, 23 Mawrth, cawsom fwynhau uchafbwyntiau'r cystadlu yn rownd gynderfynol categori'r corau meibion, gyda phedwar côr yn canu am le yn y rownd derfynol - Bois y Waun Ddyfal, Bois Ceredigion, Eschoir - Bois Cymry Llundain a Chôr Meibion Rhosllannerchrugog.

Dyma'r ail waith i Gôr Meibion Rhosllannerchrugog gyrraedd rownd gynderfynol y corau meibion, ond eleni yw'r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol, fydd yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C yng nghanol mis Ebrill.

"Does gen i ddim geiriau. 'Ry ni wedi gweithio mor galed fel tîm ac mae'r wobr yma i'r bois sy' tu ôl i mi," dywedodd Aled Phillips, arweinydd y côr, oedd yn llawn emosiwn ar ôl y cyhoeddiad.

Ffurfiwyd y côr ym 1891 ac mae eu cartref yn theatr Y Stiwt. Mae 65 o aelodau yn y côr ac maen nhw'n amrywio o fechgyn 18 oed hyd at yr aelod hynaf sy'n 80. Mae bod yn aelod o'r côr yn draddodiad teuluol i rai gyda thadau a meibion yn canu ochr wrth ochr â'i gilydd.

"Dwi wedi dewis rhaglen sy'n gyfle i arddangos sŵn da'r côr ond hefyd dangos ein bod ni'n gallu canu mewn steil ac arddull gwahanol," meddai Aled am y gwaith o baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, ac mae wedi talu ar ei ganfed!

Mae cyfres Côr Cymru 2013 yn parhau nos Sadwrn, 30 Mawrth 9.00pm, gydag uchafbwyntiau rownd cynderfynol y corau merched. Bydd y corau cymysg yn dirwyn y rowndiau cynderfynol i ben ar y nos Sadwrn canlynol, gyda'r rownd derfynol yn fyw ar S4C nos Sul 14 Ebrill.

Ewch i wefan s4c.co.uk/corcymru i wylio fideo o bob perfformiad yn llawn ynghyd â sylwadau'r beirniaid.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?