S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

CF1 yn cyrraedd rownd derfynol Côr Cymru

08 Ebrill 2013

 Mae côr CF1 o Gaerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Côr Cymru 2013.

Nhw ddaeth i'r brig yn rownd gynderfynol y categori corau cymysg ac fe ddarlledwyd uchafbwyntiau'r cystadlu ar S4C ar nos Sadwrn, 6 Ebrill. Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C ar 14 Ebrill.

Mae CF1 wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau cynderfynol Côr Cymru ar bob blwyddyn, ond nawr eu bod nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol maen nhw'n benderfynol o hawlio'r teitl.

"Does 'na'm geiriau, 'sai'n ei gredu e!" meddai arweinydd y côr Eilir Owen Griffiths yn llawn emosiwn wrth glywed y byddan nhw yn cystadlu yn y rownd derfynol eleni. Yna, fe drodd at y côr a'u cyfarch, "Rwy mor browd ohonoch chi. Diolch yn fawr!"

Ffurfiwyd y côr ddeng mlynedd yn ôl ac mae'n cynnwys pobl ifanc sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Ar ôl cystadlu ym mhob un o flynyddoedd Côr Cymru, mae Eilir yn gwybod mai drwy waith caled yn unig mae llwyddo.

"Mae unrhyw gôr eisiau ennill cystadleuaeth fel hyn. Ond mae'n rhaid i'r côr roi'r gwaith i mewn," meddai, gan ychwanegu fod y côr yn ymarfer dwywaith mor aml, a dwywaith mor galed, â'r arfer wrth baratoi ar gyfer Côr Cymru.

Rhaglen uchafbwyntiau'r corau cymysg oedd y rhaglen ola' o blith y rowndiau cynderfynol. Rydym ni bellach yn gwybod mai CF1, Côr y Cwm, Côr Aelwyd y Waun Ddyfal, Côr y Wiber, Côr Meibion Rhosllannerchrugog a Chôr Iau Glanaethwy yw'r chwe chôr fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol.

Gwyliwch y cyfan yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Sul 14 Ebrill am 6.15 yr hwyr.

Cyn hynny, dilynwch y corau wrth iddynt baratoi i gystadlu mewn rhaglen arbennig ar nos Sadwrn 13 Ebrill am 9.00yh.

Mae modd gwylio perfformiadau pob un o'r corau fu'n cystadlu yn y rownd gynderfynol ar y wefan - s4c.co.uk/corcymru - ynghyd â sylwadau'r beirniaid.

Mae'r rhaglenni'r gyfres hyd yma ar gael nawr i'w gwylio unrhyw bryd ar-lein ar Clic - s4c.co.uk/clic

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?