S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr y Wiber yn cyrraedd rownd derfynol Côr Cymru ar eu hymgais gyntaf

02 Ebrill 2013

Mae Côr y Wiber o Gastell Newydd Emlyn wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Côr Cymru a hynny ar y flwyddyn gyntaf iddyn nhw drio yn y gystadleuaeth.

Nhw ddaeth i'r brig yn rownd gynderfynol y categori corau merched ac fe ddarlledwyd uchafbwyntiau'r cystadlu ar S4C ar nos Sadwrn, 30 Mawrth. Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C ar 14 Ebrill.

Felly pam fod y côr wedi penderfynu cystadlu eleni?

"Rhoddodd ein buddugoliaeth yn y gystadleuaeth corau merched yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 yr hyder i ni gystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru," meddai Angharad Thomas sydd wedi arwain y côr ers ei sefydlu yn 2010.

"Mae’r gystadleuaeth wedi rhoi cyfle i fi, drwy’r côr, gyflwyno rhaglen heriol, ryngwladol sy’n arddangos arddulliau ac ieithoedd gwahanol. Mae hefyd wedi rhoi ffocws i’r côr ac felly, o ganlyniad, wedi codi safonau."

Mae'r côr o ardal Castell Newydd Emlyn yn cynnwys 30 o aelodau. Ydyn nhw wedi trafod beth wnânt nhw gyda'r arian petai nhw'n ennill y brif wobr o £4000 yn y rownd derfynol?

"‘Ry ni wedi trafod y posibilrwydd o fynd ar daith dramor, felly mi fydde’r arian yn ein sbarduno i ystyried hyn o ddifrif," meddai Angharad.

Mae uchafbwyntiau rowndiau cynderfynol Côr Cymru 2013 yn cael eu dangos ar S4C ar hyn o bryd, gyda phum rhaglen dros gyfnod o bum nos Sadwrn. Y penwythnos yma, 6 Ebrill 9.00yh, bydd uchafbwyntiau'r categori olaf yn y rowndiau cynderfynol, sef y corau cymysg, cyn y rownd derfynol fyw.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C nos Sul, 14 Ebrill, gan ddechrau am 6.15 yr hwyr.

Bydd fideo o bob un o berfformiadau'r rowndiau cynderfynol ar gael i'w gwylio ar wefan Côr Cymru ynghyd â phroffil o'r corau a sylwadau'r beirniaid. Mae rhaglen uchafbwyntiau'r categori ieuenctid ar gael nawr i'w gwylio unrhyw bryd ar-lein ar Clic

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?