S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn darlledu rhaglen newyddion arbennig yn dilyn argyfwng y ffermydd mynydd yn sgil y tywydd garw

08 Ebrill 2013

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd rhaglen Newyddion arbennig yn cael ei darlledu heno (8 Ebrill) i edrych ar effaith y tywydd garw ar ffermydd mynydd Cymru.

Mae'r tywydd oer wedi cael effaith andwyol ar nifer fawr o ffermydd mynydd Cymru, gyda channoedd o ddefaid a nifer o ferlynnod gwyllt yn cael eu claddu gan y lluwchfeydd eira.

Ar Newyddion: Argyfwng Ffermydd Mynydd heno (8 Ebrill) am 21.30, Rhun ap Iorwerth fydd yn edrych ar yr effeithiau, yn adlewyrchu profiadau teuluoedd ar ddwy fferm sydd wedi eu taro gan yr eira, ac yn dilyn y ffermwyr wrth ei gwaith wrth iddynt frwydro yn erbyn yr elfennau ar yr ucheldiroedd.

Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar alwad rhai ffermwyr i gael eu digolledu, ac yn gofyn a ddylai ffermwyr gael eu trin fel achos arbennig mewn digwyddiadau o'r fath? Rhun fydd yn holi Llywodraeth Cymru am y cymorth sy'n cael ei roi i ffermwyr.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

“Ar S4C, ry’n ni’n barod i newid ein cynlluniau i ymateb i ddigwyddiadau sydd o bwys mawr i bobl Cymru. Mae'r tywydd garw diweddar wedi cael effaith ar lawer iawn o’n cymunedau. Ry'n ni am sicrhau bod S4C yn rhoi llais i'r bobl hynny sydd wedi eu taro gan amgylchiadau eithriadol y tywydd garw.”

Meddai Geraint Lewis Jones, Golygydd y rhaglen:

“Mae’r rhaglen yn ymateb yn sydyn i stori sy’n parhau i ddatblygu. Wrth greu rhaglen newyddion arbennig sy’n canolbwyntio ar un pwnc, y bwriad yw edrych mewn dyfnder ar sefyllfa sy’n cael ei ddisgrifio fel argyfwng i ffermydd mynydd.”

Newyddion: Argyfwng Ffermydd Mynydd, heno am 21.30 ar S4C. 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?