S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilm S4C yn fuddugol yng Ngwobrau Ffilm a Theledu Rhyngwladol Gwyliau Efrog Newydd

10 Ebrill 2013

Mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Las Vegas neithiwr cyhoeddwyd bod ffilm ddogfen a ddarlledwyd ar S4C wedi ennill gwobr yn y New York Festivals Award.

Roedd Fy Chwaer a Fi yn fuddugol yng nghategori cynyrchiadau sy'n rhoi sylw i achosion dynol ac yn derbyn 'World Gold Medal' am ddod i'r brig.

Mae'r ffilm rymus yn adrodd hanes Catherine a Kirstie Fields, efeilliaid deunaw oed o Fryn ger Llanelli sydd yn dioddef o gyflwr niwrolegol unigryw sydd wedi eu parlysu a dwyn eu gallu i siarad. Ar Fy Chwaer a Fi mae Catherine a Kirstie yn cyfathrebu â’r gynulleidfa trwy ddefnyddio peiriant arbennig, ac yn rhannu eu stori â'r byd am y tro cyntaf.

Meddai Mei Williams, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Fy Chwaer a Fi:

"Rydym i gyd yn hynod falch fod Fy Chwaer a Fi wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Doedd hi ddim yn hawdd i'r merched agor eu calonnau ar gamera, mi roedd yn benderfyniad dewr tu hwnt i rannu eu stori unigryw â'r gynulleidfa. Mae'r ffilm yn cael ei dangos ledled y byd bellach ac mae pawb yn parhau i ryfeddu at eu hysbryd a'u cryfder.

"Mae wedi bod yn fraint i mi ddatblygu cyfeillgarwch agos â'r teulu a dwi'n hynod ddiolchgar i S4C am fod mor gefnogol o'r cychwyn cyntaf. Mae'r ffilm yn destament ac yn gydnabyddiaeth o waith amhrisiadwy Hayley Mason a chriw hosbis Tŷ Hafan sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r teuluoedd arbennig yma dan amgylchiadau mor anodd.

Fel cyfarwyddwr, mae fy nyled i'n fawr i'm holl gydweithwyr, ond yn arbennig i Madoc Roberts y golygydd a'r Uwch gynhyrchydd Paul Islwyn Thomas am bob cyngor ac arweiniad a roddodd ymdeimlad mor arbennig i'r ffilm hon."

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C:

"Mae’n wych gweld cynhyrchiad S4C yn derbyn clod ar blatfform rhyngwladol. Mae Fy Chwaer a Fi yn ffilm onest a gafaelgar sydd wedi cyffwrdd â gwylwyr y Sianel, ac yn adrodd stori hynod o drist ond ysbrydoledig tu hwnt hefyd. Llongyfarchiadau gwresog iawn i Mei Williams, i’r tîm yn Boom Pictures Cymru, ac i Catherine a Kirstie a’u teulu oll.”

Yn dilyn y llwyddiant hwn bydd S4C yn ail-ddarlledu Fy Chwaer a Fi nos yfory, Iau, 11 Ebrill am 9.00. Bydd y ffilm wedyn ar gael i'w gwylio ar Clic (s4c.co.uk/clic) am 35 diwrnod.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?