S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tîm Twin Town yn cyd-weithio eto i greu ffilm ddogfen i S4C

12 Ebrill 2013

Mae Rhys Ifans, a chwaraeodd ran Jeremy Lewis yn y ffilm enwog Twin Town, a Kevin Allen, cyfarwyddwr y ffilm honno yn cyd-weithio unwaith eto, i greu ffilm ddogfen am Dylan Thomas i S4C y tro hwn.

Archwilio dylanwad y Gymraeg ar waith Dylan Thomas yw prif fwriad y ffilm a gaiff ei darlledu yn 2014, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni'r bardd. Wrth gyflwyno'r ffilm bydd Rhys hefyd yn holi a oedd Dylan ei hun yn siaradwr Cymraeg, ac ydi hynny'n bwysig i'w ystyried wrth werthfawrogi ei waith.

Gwirionodd Rhys Ifans ar waith y bardd o Abertawe wrth astudio ei gerddi fel disgybl yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon, Yr Wyddgrug.

Bydd yr actor sydd wedi cyrraedd enwogrwydd byd eang am ei rôl mewn ffilmiau fel Notting Hill a The Boat That Rocked yn siarad am ei brosiect newydd mewn cyfweliad egsgliwsif i raglen Pethe, ar S4C Nos Lun 15 Ebrill am 9.30pm.

"Dwi'n ffan mawr o Dylan Thomas", meddai'r actor o Rhuthun mewn cyfweliad â chyflwynydd Pethe, Lisa Gwilym. "Mae ei eiriau o'n dal yn fyw, a ddim yn hel llwch mewn amgueddfa."

"Mae darllen ei waith o yn dy godi di fel perfformiwr. Mae 'na gynghanedd yn ei waith o."

Bu Rhys a Kevin yn ffilmio yn Nhalacharn yn ddiweddar ac roedd criw Pethe yno ar leoliad er mwyn cael sgwrs gyda nhw. Bydd y cyfweliad llawn i'w weld ar y rhaglen.

Yn ôl Comisiynydd Ffeithiol S4C, Llion Iwan, mae’n falch iawn bod Rhys a Kevin wedi cynnig y syniad yma, ac yn sicr y bydd y ddau yn cynhyrchu rhywbeth arbennig i wylwyr y Sianel.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C:

"Roedd cael cynnig dogfen gan Rhys Ifans a Kevin Allen yn archwilio dylanwad y Gymraeg ar waith Dylan Thomas yn faes gwreiddiol, a diddorol iawn. Mae'r ddau wedi gweithio gyda'i gilydd yn y gorffennol ar Twin Town, ac mae hwn yn broject yr oedden nhw yn awyddus iawn i'w daclo.

"Roedd yn gyfle unigryw i gael Rhys ar y sgrin yn trafod un o eiconau byd enwog Cymru. A golyga cefndir teuluol Kevin a'i allu fel cyfarwyddwr fod cyfuniad arbennig yma o dalent a gwybodaeth ar gyfer y ddogfen hon. Fedrai ddim disgwyl i weld y ffilm."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?