S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr y Wiber yn ennill Côr Cymru 2013

14 Ebrill 2013

Côr y Wiber yw enillwyr cystadleuaeth gorawl fawreddog S4C Côr Cymru 2013.

Daeth y côr o Gastell Newydd Emlyn i'r brig yn dilyn rownd derfynol wefreiddiol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a gafodd ei darlledu'n fyw ar S4C nos Sul 14 Ebrill. Maen nhw wedi ennill tlws anrhydeddus Côr Cymru a gwobr o £4000.

Yn cystadlu roedd chwe chôr, yn gymysg o gorau plant, ieuenctid, meibion, merched a chôr cymysg: Côr Iau Glanaethwy; Côr y Cwm; Côr Aelwyd y Waun Ddyfal; Côr Meibion Rhosllannerchrugog; Côr y Wiber ac CF1.

Fe gyflwynodd pob côr rhaglen amrywiol o ganeuon, gan godi'r to a chreu cryn argraff ar y beirniaid rhyngwladol. Ar y panel beirniadu eleni roedd cyn gôr feistr Cadeirlan St. Paul's yn Llundain, Dr Barry Rose OBE; Katie Thomas, cantores, arweinydd a chyfansoddwr o Geredigion; a'r arweinydd corau André van der Merwe o Cape Town.

Dywedodd Hefin Owen, o Rondo Media, cynhyrchydd y gyfres i S4C, "Llongyfarchiadau i Gôr y Wiber ar ennill tlws Côr Cymru 2013. Cafwyd noson ragorol yn y rownd derfynol ac roedd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn berwi gyda chynnwrf y cystadlu. Mae'n braf dweud bod y safon eleni mor uchel ag erioed.

"Un o amcanion y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i gorau Cymreig gymryd rhan mewn cystadleuaeth o safon ryngwladol gydag arbenigwyr o bob cwr o'r byd yn cael eu gwahodd i feirniadu. A thrwy hynny, gallwn ddangos i'r byd cystal yw'r canu corawl yma yng Nghymru."

Eleni, mae Côr Cymru yn dathlu deng mlynedd ers cynnal y gystadleuaeth gyntaf yn 2003. Mae'n cael ei chynnal bob dwy flynedd ac yn denu nifer fawr i gystadlu. Fe wnaeth un ar hugain o gorau gystadlu yn y rowndiau cynderfynol ym mis Mawrth, ac fe ddewisodd y beirniaid chwech o'u plith i fynd ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol.

Côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth ddiwethaf yn 2011, a hynny am yr ail dro wedi iddyn nhw ennill yn 2007 hefyd. Mae Ysgol Gerdd Ceredigion hefyd wedi ennill y teitl ddwywaith, yn 2009 ac yn y gystadleuaeth gyntaf erioed yn 2003. Côr cymysg Serendipity dan arweiniad Tim Rhys Evans aeth â hi yn 2005.

Bydd rownd derfynol Côr Cymru 2013 ar gael i'w gwylio eto unrhyw bryd ar-lein ar s4c.co.uk/clic

Ewch i wefan s4c.co.uk/corcymru am ragor o wybodaeth yn cynnwys fideo o berfformiadau'r corau yn y rowndiau cynderfynol ynghyd â sylwadau'r beirniaid.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?