16 Ebrill 2013
Mewn prynhawn sy'n arddangos doniau rygbi'r dyfodol ar ei orau, bydd tair gêm derfynol cystadlaethau ysgolion a cholegau Cymru yn cael eu darlledu'n fyw ar wefan rygbi S4C – s4c.co.uk/rygbi – ar ddydd Mercher 17 Ebrill.
Brynhawn Mercher bydd tair gêm derfynol yn cael eu chwarae gefn wrth gefn yn Stadiwm y Mileniwm ar ddiwrnod sy'n uchafbwynt tymor rygbi ysgolion a cholegau Cymru.
Prif gêm y prynhawn yw rownd derfynol cystadleuaeth Rygbi'r Colegau. Bydd y gêm rhwng Coleg Sir Gâr a Choleg Morgannwg yn dechrau am 3.30 y prynhawn a'r cyfan yn fyw ar wefan s4c.co.uk/rygbi.
Mae S4C wedi bod yn dilyn ymgyrch y colegau yn y gystadleuaeth hon gyda gemau yn cael eu darlledu'n fyw ar y wefan s4c.co.uk/rygbi gydol tymor y Colegau.
Cyn y rownd derfynol honno, bydd dwy gêm arall i'w mwynhau a'r cyfan yn dechrau am hanner dydd gyda rownd derfynol Tarian Dewar i dimau dan 15 oed. Yn chwarae mae Ysgolion y Rhondda ac Ysgolion Pontypridd.
I ddilyn am 1.30 y prynhawn bydd rownd derfynol Rygbi Dan 18 rhwng Glantaf a Choleg Sir Gâr, gyda rownd derfynol Rygbi'r Colegau syth wedyn am 3.30.
Dywedodd Geraint Rowlands, Comisiynydd Chwaraeon S4C, "Gyda thri theitl yn y fantol, bydd y diwrnod yn sicr yn un arbennig i'r chwaraewyr ifanc sy'n cael y cyfle i chwarae ar lwyfan anhygoel Stadiwm y Mileniwm. Ac ry' ni'n falch o roi llwyfan i'w doniau yn fyw ar wefan S4C hefyd."
Yn hwyrach yr un noson ar S4C, bydd y rhaglen Rygbi'r Colegau am 11.05 yn dangos gêm derfynol Rygbi'r Colegau rhwng Coleg Sir Gâr a Coleg Morgannwg yn llawn. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau gêm y Tarian Dewar a'r gêm Dan 18 ac hefyd golwg ar oreuon gêm arall a chwaraewyd yn y bore, sef Rownd Derfynol Ysgolion Cynradd rhwng Castell Nedd ac Ysgol Tywyn Port Talbot.
Diwedd