S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Partneriaeth S4C â chynllun LIFE

17 Ebrill 2013

Mae S4C wedi cytuno ar bartneriaeth newydd gyda chynllun ‘LIFE’ yn Abertawe i alluogi pobl ifanc yr ardal i ddatblygu a marchnata ap dwyieithog. Bydd y cynllun yn rhan o Academi Talent LIFE fydd yn lansio ym mis Mai.

Mae cynllun LIFE yn Abertawe yn brosiect unigryw, arloesol a chreadigol sy’n cyfuno technolegau digidol ac addysg. Wrth fanteisio ar ddulliau dysgu newydd, y nod yw rhannu sgiliau dros y cenedlaethau, lle nad oes terfyn i addysg, a chwmpasu sectorau megis diwydiant, masnach ac addysg.

Cynhelir Academi Talent LIFE ar gampws Prifysgol Abertawe ar y cyd â Technocamps o’r 16eg Mai eleni. Bydd y 15 person ifanc fydd yn cymryd rhan wedi'u dewis yn dilyn deuddeg wythnos gychwynnol o gwrs codio a datblygu ap gyda Technocamps a LIFE. Mae’r disgyblion, fydd yn dod o ysgolion Cymraeg a Saesneg, wedi eu hadnabod fel unigolion talentog a medrus iawn yn y maes hwn.

Mae S4C wedi cytuno i gefnogi dyluniad a datblygiad ap dwyieithog - a’i gwneud hi’n bosib i’w lawr lwytho ar draws y byd. Bydd hwn yn gyfle amhrisiadwy i ddisgyblion yr Academi fydd yn galluogi iddynt ddychwelyd i’w ysgolion fel Arweinwyr Digidol ac i rannu eu harbenigedd.

Bydd S4C hefyd yn cefnogi prosiect penodol gydag Ysgol Gyfun Gwyr ac ysgolion cynradd y dalgylch i ddatblygu sgiliau rhaglennu a chodio meddalwedd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Simon Pridham, Rheolwr Cynllun LIFE a Phrifathro Gweithredol Ysgol Gynradd Casllwchwr: “Heb gefnogaeth partneriaid tebyg i S4C, ni fyddai LIFE yn gallu cynnig y cyfleoedd yma i ddisgyblion a dysgwyr dros y ddinas a bydd datblygu apiau dwyieithog yn ddiwedd gwych i’r bartneriaeth allweddol yma.

“Gyda chymorth S4C, mae cynllun LIFE yn bwriadu gwneud gwahaniaeth adeiladol yng Nghymru Ddigidol”

Meddai Rheolwr Digidol S4C, Huw Marshall: “Mae S4C yn cydnabod pa mor bwysig yw cefnogi datblygiad sgiliau digidol o’r crud, yn enwedig trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae S4C yn ymrwymedig i ddatblygu technolegau newydd fydd yn cyfoethogi tirwedd ddigidol Cymraeg fwy ac yn ein helpu ni fel sianel i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd."

Diwedd

Nodiadau: Am rhagor o wybodaeth am y cynllun 'LIFE' cysylltwch â Simon Pridham ar simonpridham@gmail.com

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?