S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddangos Casnewydd yn erbyn Grimsby yn fyw

24 Ebrill 2013

Fe fydd gêm Casnewydd yn erbyn Grimsby yn ail gymal rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cyngres BlueSquare yn cael ei dangos yn fyw ar S4C (28 Ebrill).

Mae tîm Justin Edinburgh yn ceisio am le yn y gêm derfynol yr wythnos nesaf, pan fydd un tîm yn ennill lle yng nghynghrair pêl-droed Lloegr. Mae Casnewydd yn un o ddau dîm o Gymru sy’n gobeithio am ddyrchafiad, gyda Wrecsam yn herio Kidderminster yn gynharach brynhawn Sul.

Ymunwch â chriw Sgorio ar gyfer gêm Casnewydd-Grimsby yn fyw – bydd y rhaglen yn dechrau am 4.00, gyda'r gic gyntaf am 4.30.

Meddai Comisiynydd Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands:

"Fe allai’r gêm yma arwain at benwythnos enfawr arall i bêl-droed yng Nghymru – a’r cwestiwn mawr yw, a fydd hi’n frwydr rhwng dau dîm o Gymru i gael lle yng nghynghrair pêl-droed Lloegr?

"Mae S4C yn chwilio am gyfleodd i ddangos pêl-droed o bob lefel - Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan Cymru, ac yn dilyn darllediad llwyddiannus gêm Wrecsam yn ffeinal Tlws FA Lloegr, ry’n ni’n falch o allu dangos Casnewydd yn y gêm allweddol hon. Bydd uchafbwyntiau gêm Wrecsam yn erbyn Kidderminster yn rhan o raglen Sgorio nos Lun (29 Ebrill) ar S4C.

"Ry’n ni’n dymuno pob llwyddiant i Gasnewydd a Wrecsam wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle," meddai Geraint Rowlands.

Diwedd

Nodiadau:

• Bydd y gêm ar gael ar wefan S4C, Clic am 35 diwrnod ar ôl y darllediad.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?