S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prif Weithredwr S4C yn cadarnhau toriadau newydd i gyllideb y Sianel

01 Mai 2013

Mae Prif Weithredwr S4C wedi cadarnhau bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi rhoi gwybod iddo y bydd eu cyfraniad i gyllideb y sianel yn cael ei dorri o ychydig dros 1% yn rhagor am y ddwy flynedd nesaf.

Yn sgil y Gyllideb a gafodd ei chyhoeddi gan y Canghellor fis Mawrth, fe ddywedodd Ian Jones mewn cyfweliad â rhaglen Manylu BBC Cymru fod adran ddiwylliant y Llywodraeth, DCMS, wedi dweud y bydd 1.09% yn llai o arian ar gael i S4C ar gyfer 2013/14. Y flwyddyn ganlynol, fe fydd y gyllideb yn lleihau 1.06% pellach.

Roedd y Llywodraeth wedi cytuno i gyfrannu £6.7m i gyllideb S4C yn 2013/14 a £7m yn 2014/15 ar ôl cytundeb i ariannu mwyafrif cyllideb y sianel o ffi’r drwydded. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo yn y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus i ddarparu arian digonol i S4C.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Ry’n ni wedi cael gwybod gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol am y toriadau pellach i’w cyllideb ar gyfer darlledu Cymraeg, a ry’ ni’n gweithio’n fewnol i ddelio gyda sgil effeithiau hynny.

“Mae’r toriadau hyn yn ychwanegol i’r toriad o 36% mewn termau real i’n cyllideb ers 2010.

“Ry’n ni wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ac ry’n ni am barhau i drafod gyda DCMS ynglŷn â’i hymrwymiad i gyllido darlledu drwy’r Gymraeg rhwng nawr ac Adolygiad Gwariant y Llywodraeth fis Mehefin. Mae’r adolygiad hwnnw’n effeithio ar gyfnod y tu hwnt i ymrwymiad ariannol presennol y llywodraeth i S4C - ar ôl 2015.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?