S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Digonedd o hwyl i'r plant gyda S4C yn y Sioe Frenhinol

17 Gorffennaf 2013

Bydd llond lle o gystadlu, cymdeithasu a mwynhau ar faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos nesaf, a bydd S4C yno hefyd gyda llu o ddigwyddiadau i ddiddanu plant o bob oed.

O ddydd Llun 22 Gorffennaf hyd ddydd Iau 25 Gorffennaf bydd nifer o ddigwyddiadau hwyliog yn cael eu cynnal gan S4C ledled maes y Sioe.

Bydd dau o gyflwynwyr Gwasanaeth Cyw a rhai o hoff gymeriadau Cyw gan gynnwys Sali Mali, Super Ted a Sam Tân yn dawnsio a chanu yn adeilad S4C am 11.00am ac eto am 4.00pm bob diwrnod, ac am 3.00pm ddydd Llun a 2.00pm dydd Mawrth, Mercher ac Iau. Mae croeso i bawb alw draw i ymuno yn yr hwyl.

Bydd cyflwynwyr Cyw yn darllen stori i'r rhai bach ar stondin Mudiad Ysgolion Meithrin ar y maes am 12.00pm bob diwrnod, ac eto yn stondin Twf am 3.00pm dydd Mawrth, Mercher ac Iau.

Yn ogystal bydd gwahanol gymeriadau yn diddanu’r rhai bach yn stondin Twf am 12.00pm, mi fydd Cyw yn dawnsio ar y bandstand bob amser cinio, ac mi fydd San Tân yn dweud helo wrth ymyl y frigâd dân ar y maes bob diwrnod am 1.30pm.

A hithau yn Sioe Amaethyddol mi fydd S4C yn dod â hyd yn oed mwy o anifeiliaid i'r maes ar gyfer sesiynau Gwylltio yng nghwmni'r cyflwynydd Rhys Bidder. Ddydd Llun am 2.00pm ac eto am 3.30pm, a dydd Mawrth, Mercher ac Iau am 12.00pm a 3.00pm yn adeilad S4C mi fydd Rhys yno gyda Chudyll Coch, Tylluan Wen, Tylluan Fach, Tylluan y Coed a Ffwlbart! Caiff y plant gyfle i ddal a rhoi mwythau i'r anifeiliaid wrth ddysgu mwy amdanynt.

Ac yn dilyn rownd derfynol gyffrous cyfres Cog1nio ar S4C bydd enillydd y gyfres, Non Morris Jones sy'n ddisgybl yn Ysgol Tryfan, Bangor yn coginio un o'i ryseitiau ei hun o lyfr ryseitiau newydd Cog1nio yng nghwmni'r gogyddes Nerys Howell tu allan i'r Pafiliwn Bwyd am 1.00pm ar ddydd Iau 25 Gorffennaf. Bydd cyfle i chi brynu'r llyfr o ryseitiau iach, Cog1nio 2013 yno hefyd.

Galwch draw yn adeilad S4C ar faes y sioe i gael copi o'r amserlen lawn o ddigwyddiadau.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?