S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynhadledd S4C yn awgrymu dyfodol digidol llewyrchus

10 Mai 2013

 Mae Rheolwr Digidol S4C wedi darogan dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg ar y platfformau digidol yn dilyn y gynhadledd Creadigidol S4C a gynhalwyd ddoe (Iau 9 Mai) yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Fe wnaeth 120 o bobl gofrestru i fynychu'r gynhadledd – a gynhaliwyd yn Galeri Caernarfon a Chanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd - ac roedd hefyd yn cael ei darlledu'n fyw ar y wefan s4c.co.uk/creadigidol

Y bwriad oedd cynnal digwyddiad i’r sector greadigol er mwyn amlygu’r datblygiadau ym maes creu a chyfleu cynnwys digidol. Ac fe wnaeth y drafodaeth ymestyn y tu hwnt i'r sesiynau wrth i'r rhai oedd yn mynychu, a phobl oedd yn dilyn y ffrwd fyw ar-lein, drydar yn defnyddio'r tag #creadigidol

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, "Cafwyd diwrnod llwyddiannus ym Mae Caerdydd a Chaernarfon gyda thrafodaeth fywiog ac adeiladol ar agweddau gwahanol o'r maes digidol.

"Roedd Creadigidol yn gyfle i rannu syniadau ar sut i ddatblygu adnoddau ymhellach a gwneud y mwya’ o'r cyfleoedd sydd ar gael er mwyn sicrhau lle i'r Gymraeg ar y we a'r platfformau digidol amrywiol. Yn sicr fe gafwyd hynny, ac rwy'n hyderus fod y digwyddiad wedi ysbrydoli a sbarduno sawl syniad sydd â'r potensial i ddatblygu ymhellach. Mae'r cyfan yn awgrymu'n gryf bod dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg ar y platfformau digidol."

Yn ogystal â Huw Marshall, yn siarad yn y gynhadledd roedd Elin Morris, Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C, Anton Faulconbridge o Rant Media, Phil Stead, Uwch Ddylunydd Cwmni Da a Richard Lewis, Pennaeth Partneriaethau YouTube.

Hefyd roedd Simon Pridham Prifathro Ysgol Gynradd Casllwchwr a rheolwr rhaglen LIFE yn Abertawe, Rhodri ap Dyfrig Myfyriwr PHD Cyfryngau Cyfranogol ac Ieithoedd Lleiafrifol, Anwen Aspden, Uwch Gynhyrchydd Rhyngweithiol a Dysgu BBC Cymru Wales, Emma Messe, Prifysgol Caerdydd a Hannah Thomas, Cynhyrchydd.

Agorwyd y diwrnod gyda gair o groeso gan Brif Weithredwr S4C, Ian Jones.

Mae modd gwylio pob un o sesiynau Creadigidol eto ar-lein ar s4c.co.uk/creadigidol

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?