S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Brwshys sgwrio a blowsys sidan - S4C yn dod a hanes yn fyw yng Ngorllewin Cymru

22 Mai 2013

Bu dros ddeg miliwn o bobl yn tanio'r teledu ar nos Sul i wylio helyntion diweddaraf teulu Grantham-Crawley, ond faint ohonom fyddai wedi bod yn fodlon camu i esgidiau trigolion Downton mewn gwirionedd?

A phetai modd i ni deithio nôl i ddechrau'r ganrif ddiwethaf, a fydden ni ymysg y tlodion, ynteu yn byw bywyd moethus y boneddigion? Yn forwyn, yn gogydd neu fwtler? Yn Sgweier neu Foneddiges y tŷ?

Mewn cyfres uchelgeisiol newydd bydd S4C yn mynd amdani gyda'r union arbrawf hwn ym mhlasty Llanerchaeron; ystâd fonedd o'r 18fed ganrif yng Ngorllewin Cymru - Y Plas.

Pwy fyddai'n ddigon dewr i fyw a gweithio fel ein cyndeidiau gan mlynedd yn ôl? Llawer un yn ôl pob tebyg. Mae cwmni cynhyrchu Boom Pictures wedi derbyn dwsinau o ffurflenni cais, a bellach wedi dewis pum deg o'r pentwr.

Ddydd Sul 16 Mehefin bydd yr hanner cant sydd ar y rhestr fer yn cael eu rhoi ar waith er mwyn i'r tîm cynhyrchu ddewis yr ugain fydd yn cael mynd ar y daith hon nôl mewn amser i fyw yn Y Plas. Bydd yr unigolion llwyddiannus yn byw ym mhlasty Llanerchaerfon yn union fel y byddai pobl wedi gwneud ar ddechrau'r 18fed ganrif.

Ond, er y bydd yr ugain olaf yn saff o le yn Y Plas, mae tro arall yn y gynffon - chân nhw ddim gwybod pa swyddogaeth neu rôl fydd ganddynt yn y plasty tan eu diwrnod cyntaf yno. Felly mi fydd yna dipyn o gnoi ewinedd tan y diwrnod hwnnw pan gân nhw wybod os mai bywyd o dlodi neu gyfoeth sy'n o'u blaenau.

Ond mis Medi ym Mhlasty Llanercharon mi fydd y brwshys sgwrio a'r blowsys sidan yn barod.

I gael y wybodaeth ddiweddara am y gyfres dilynwch @yplas1 ar Twitter.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?