S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mistar Urdd a’i app coch, gwyn a gwyrdd

22 Mai 2013

Wrth baratoi ar gyfer miri Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 ym Moncath yr wythnos nesa’, mae app newydd wedi ei ryddhau i’ch helpu chi i fanteisio’n llawn ar holl weithgareddau’r ŵyl.

Mae App yr Urdd yn brosiect newydd sbon sydd wedi ei ddatblygu’n arbennig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2013 ar y cyd rhwng Urdd Gobaith Cymru ac S4C.

Mae’r app dwyieithog yn cynnwys map o’r Maes, amserlen weithgareddau a chanlyniadau’r cystadlaethau. Bydd modd i chi gadw trefn ar eich diwrnod drwy greu'ch amserlen eich hunain, a chadw llygad ar y tywydd gyda’r rhagolygon diweddaraf. Ac wrth i gystadlaethau’r wythnos fynd yn eu blaen, bydd modd i chi ddefnyddio’r app i wylio clipiau fideo o berfformiadau’r llwyfan ar eich ffôn.

Mae App yr Urdd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim ar gyfer iPhone a ffonau Android. Am ragor o wybodaeth ac i ganfod sut i lawrlwytho’r app, ewch i wefan yr Urdd - urdd.org/eisteddfod/ap-urdd

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, "Roeddem yn falch o gyd-weithio gyda’r Urdd i ddatblygu App yr Urdd. Mae’n ddyfais hwylus sy’n llawn adnoddau defnyddiol ac yn dangos sut mae modd i ddigwyddiadau poblogaidd fel Eisteddfod yr Urdd fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf."

Bydd rhaglenni S4C yn dod â gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 i’r sgrin, gan gynnwys gwasanaeth botwm coch i’r di-Gymraeg am y tro cyntaf ar y rhaglenni byw.

Mae'r arlwy yn dechrau gyda’r Cyngerdd Agoriadol ar nos Sul, 26 Mai am 8.30. Yna bob dydd - o ddydd Llun 27 Mai i ddydd Sadwrn 1 Mehefin - bydd darlledu byw o’r Maes yn dechrau am 10.00 y bore. Ac yn ogystal â rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol, bydd cystadlu byw o’r llwyfan ar nos Lun, nos Iau a nos Sadwrn.

Bydd S4C ar y Maes hefyd, gydag amserlen lawn dop o sioeau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc yng nghwmni criw Cyw a Stwnsh. Ewch i s4c.co.uk/caban ar gyfer copi o amserlen pafiliwn S4C i’w hargraffu a’i chadw.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?