S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mam-gu a tad-cu April Jones yn siarad yn ecsgliwsif ar S4C

31 Mai 2013

Mewn cyfweliad ecsgliwsif ar S4C, bydd aelodau o deulu'r ferch fach April Jones o Fachynlleth yn siarad am eu colled am y tro cyntaf.

Yn y rhaglen arbennig Byw heb April: Y Byd ar Bedwar ar nos Sul 2 Mehefin am 8.00, bydd tad-cu a mam-gu April Jones, Dai a Linda Smith o Gei Newydd, Ceredigion, yn rhannu'r hunllef o golli eu hwyres bum mlwydd oed. Byddan nhw'n trafod y noson ddiflanodd April, yn trafod tynged Mark Bridger a'n dweud sut maen nhw'n ymdopi â bywyd heb eu hwyres.

"Ma'n anodd iawn. Chi'n mynd allan ac mae pobl yn gofyn cwestiynau i chi a ma'n job i wybod beth i ddweud wrthyn nhw. Ni'n gweld ishe hi bob dydd. Meddwl amdani bob dydd. Siarad ambyti hi bob dydd. Fydd hi 'na trwy'n bywyd ni... yn y meddwl," meddai Dai Smith, llys-dad Paul Jones sef tad April.

"Wy’n credu amser ma’ plentyn yn marw mewn damwain mae'n ddigon gwael, ond rwy'n credu ma' hyn yn waeth - bod dim corff da chi yndyfe. Sai'n credu bydd neb yn gwybod yn iawn beth sy wedi digwydd - dim ond fe."

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar ddydd Iau 30 Mehefin, naw mis wedi i April fynd ar goll, fe ddedfrydwyd Mark Bridger, 47 o Geinws ger Machynlleth, yn euog o gipio a lladd y ferch fach bum mlwydd oed, ac am geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe garcharwyd Bridger am oes, y ddedfryd eithaf, ond wrth drafod tynged y llofrudd, mae Dai Smith yn dweud nad oes unrhyw gosb yn cymharu ag erchylltra’r drosedd.

Meddai: "Ma jail rhy dda iddyn nhw. Fi'n credu dylen nhw ddod 'nôl â'r crogi neu'r injection neu rywbeth fel 'ny. Ond fi'n credu dylen nhw syffro gynta’... fel ma' hi di gorfod syffro."

Mae ei wraig Linda, yn cytuno na all unrhyw gosb wneud yn iawn am golli eu hwyres, ac y bydd yr hunllef yma gyda'r teulu am byth. Meddai: "Does dim cyfiawnder all ddod ac April yn ôl, does dim all wneud yn iawn am gymryd ei bywyd hi.

"Dwi ddim yn credu y gallwn ni byth ddod i delerau gyda'r peth. Mae fel breuddwyd - fel petai o ddim yn wir... Ond mae o yn wir, yn amlwg"

Mae'r rhaglen yn cael ei chynhyrchu gan dîm ITV Cymru sy'n gyfrifol am y gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?