S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wynebu galar: rhaglen bobl ifanc S4C yn ymdrin â materion anodd

05 Mehefin 2013

Mewn rhaglen ddirdynnol ac unigryw ar S4C yr wythnos hon fe fydd pobl ifanc yn siarad am eu profiadau nhw o golli rhiant.

Bydd y bennod arbennig o’r gyfres blant a phobl ifanc, #Fi, yn cynnwys pedwar o bobl ifanc sy’n rhannu eu straeon eu hunain – y sioc, yr emosiwn a’r golled.

Bydd Lois Cernyw o Langernyw, cyflwynydd Stwnsh sef gwasanaeth pobl ifanc S4C, Harriet, 14 oed sy'n byw ger Llantrisant a Nia, 13 ac Evan, 17, brawd a chwaer o Fro Morgannwg yn siarad am y profiad o golli rhiant ar #Fi.

Darlledir y rhaglen sydd wedi ei chynhyrchu gan Boom Pictures ar S4C nos Iau 6 Mehefin am 6.05pm

Bob blwyddyn mae bron i 25,000 o bobl ifanc ym Mhrydain yn colli rhiant. Fel un a gollodd ei mham ar ôl brwydr yn erbyn cancr dair blynedd yn ôl, mae Lois Cernyw yn dweud ei bod hi'n bwysig peidio â chadw'n dawel.

"Pan 'da chi'n colli rhywun sy'n agos iawn, mae'n andros o anodd gwybod sut i ddelio hefo fo. Mae hyd yn oed son am farwolaeth yn medru bod yn galed, ond mae siarad am y peth yn medru bod o help."

Collodd Harriet ei mam pan oedd hi'n naw oed.

"Mae'n gallu bod yn anodd weithiau i godi a sylweddoli bod mam ddim yna. Weithiau mae fel bod rhan ohonof i ar goll."

"Ar y diwrnod pan oedd mam wedi marw 'do ni ddim eisiau siarad efo neb. 'Ro ni wedi crio am oriau, ac roedd rhan ohonof fi wedi mynd. Ond ar ôl hynny nes i ddechrau siarad gyda phawb a gweld fy nheulu ac mi wellodd pethau o fan'na."

"Mae'n bwysig iawn i bawb siarad, oherwydd does dim pwynt cadw pethau mewn, does dim byd yn gwella wedyn."

Collodd Nia ac Evan eu tad Matthew yn annisgwyl bum mlynedd yn ôl. Roedd e'n ddyn llawn antur ac roedd ei farwolaeth yn sioc fawr i'r teulu.

"Weithiau dwi jyst yn teimlo pam bod e 'di digwydd iddo fo, achos odd e'n ddyn anhygoel o neis, a hapus, ond wedyn weithiau dwi jyst yn meddwl, dwi wedi cael dad 'amazing'."

"Roedd e wedi mynd a ni i'r Ysgol fel arfer ond roedd ganddo epilepsi, ac roedd o wedi dod adref a chael bath a gath e ffit," meddai Nia.

"'Ro ni'n eistedd yn fan hyn yn y gegin ac roedd e jyst yn sioc. Doedd e ddim wedi bwrw fi," meddai Evan, brawd hyn Nia.

"Dwi ddim yn hoffi dangos fy emosiynau i bobl eraill. Dwi 'mod yn crio ar ben fy hun oherwydd dwi ddim yn hoffi dangos emosiwn."

Cruse Beravement Care yw'r brif elusen genedlaethol ar gyfer pobl mewn profedigaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Meddai Janette Bourne, Cyfarwyddwr Cruse Cymru:

"Mae'r bennod hon o #Fi sydd wedi ei dogfennu yn dda a'i recordio yn sensitif yn adrodd straeon personol tri pherson ifanc a'u siwrnai nhw trwy brofedigaeth. Mae'n dangos eu hanawsterau nhw i dderbyn yr hyn sydd wedi digwydd ar y dechrau ac yna'n dod o hyd i ffordd o ymdopi gyda'r teimladau a'r emosiynau amrywiol maen nhw wedi'u teimlo. Mae rhaglenni fel hon yn bwysig iawn er mwyn dangos i blant a phobl ifanc ei bod hi'n iawn i siarad am eu profiadau personol nhw o golli rhywun."

Mae'r gyfres ddogfennol #Fi yn portreadu trawstoriad o fywydau a phrofiadau plant a phobl ifanc Cymru heddiw. Cyd-gynhyrchwyd y rhaglen gan Rachel Evans ac Eleri Tinnuche o Boom Pictures a cynhyrchydd-gyfarwyddwr y rhaglen yw Griff Rowland. Mae Rachel wedi gweithio ar raglen newyddion plant, Newsround, yn y gorffennol ac mae Griff wedi gweithio fel cyfarwyddwr ar gyfer opera sebon Coronation Street.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C:

"Mae clywed y bobl ifanc yma yn siarad yn onest ac yn aeddfed am eu profiadau yn cyffwrdd y galon, ond mae'n bwysig bod llwyfan iddyn nhw gael gwneud hyn, a rhannu'r profiad gyda phlant eraill. Yn ogystal â darparu adloniant a hwyl mae'n bwysig bod rhaglenni plant a phobl ifanc S4C weithiau yn delio â phynciau sy’n anodd er mwyn helpu plant wrth iddyn nhw dyfu fyny. Rydym yn falch iawn o'r rhaglen hon, ac rydym am longyfarch Rachel Evans a Griff Rowland o Boom Pictures a diolch i'r bobl ifanc sydd wedi cyfrannu arni."

Darlledir #Fi ar S4C ddydd Iau 6 Mehefin am 6.05pm ac mi fydd y bennod ar gael i'w gwylio ar alw ar s4c.co.uk/clic am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf. Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhaglen.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?