S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Criw Cyw a Stwnsh yn ymuno yn hwyl Tafwyl

12 Mehefin 2013

Mae Ffair Gŵyl Tafwyl yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn (15 Mehefin) ac mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd rhai o hoff gymeriadau a chyflwynwyr y Sianel yn rhan o hwyl y diwrnod.

Yn yr Ŵyl sydd wedi ei lleoli ar diroedd Castell Caerdydd eto eleni, bydd Einir a Gareth, cyflwynwyr gwasanaeth Cyw yn canu a dawnsio ar y prif lwyfan am 12.00 ac yn ymuno â nhw fydd neb llai na'r cymeriad crwn a hoffus ei hun, Cyw! Bydd Sali Mali, Superted, Hana a Francis hefyd yn dod i'r llwyfan i ddiddanu'r plant ieuengaf yn ystod y sesiwn.

Yna am 12.45 bydd Lois, Tudur a Barry o Stwnsh, gwasanaeth pobl ifanc S4C yn llenwi'r llwyfan gyda'u gemau gwyllt a gwirion, ac mi fydd rhywun yn saff o gael slepjan! Dyma sioe i ddiddanu’r plant hyn gyda chyfle iddynt ennill gwobrau Stwnsh hefyd.

Gan gofio mai hybu'r Gymraeg yw nod yw Ŵyl mae digon o sesiynau ar gyfer dysgwyr hefyd. Bydd sesiwn arbennig gydag Einir a Gareth, cyflwynwyr Cyw ym mhabell y dysgwyr am 12.50, er mwyn cyflwyno gwasanaeth @tifiacyw i deuluoedd.

Ar raglen Ti, Fi a Cyw sydd ymlaen ar S4C bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener am 7.50 mae plant o bob cwr o Gymru yn helpu eu rhieni i ddysgu'r iaith, ac mae gwasanaeth trydar @tifiacyw yn cynnig cymorth gyda'r dysgu hefyd wrth drydar geiriau newydd ar-lein yn ystod y rhaglen. Dyma wasanaeth sy'n annog rhieni di-gymraeg i ddysgu gyda'u plant. Mi fydd y tiwtor Cymraeg profiadol Ioan Talfryn, hefyd yn cynnal sesiwn ym mhabell y dysgwyr am 4.30 fydd yn cynnwys gwers fer i ddysgwyr a sgwrs am rai o'i brofiadau fel tiwtor Cymraeg ar gyfres S4C, Cariad@iaith.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C:

"Mae Tafwyl yn Ŵyl wych sy'n dathlu'r gorau o'r Gymraeg ym mhrif ddinas Cymru, a ry' ni'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r hwyl eto eleni.

"Mae'n gyfle da hefyd i ddweud wrth lawer o'r dysgwyr Cymraeg sy'n ymweld â'r Ffair am y ddarpariaeth eang sydd gan S4C i ddysgwyr, rhaglenni fel Ti, Fi a Cyw, Cariad@iaith a Hwb, a gwasanaeth trydar @Tifiacyw. Roedd yr Ŵyl yn llwyddiant mawr y llynedd a dwi’n sicr y bydd yn mynd o nerth i nerth eleni.”

Mae'r Ffair yn rhan o wythnos o ddathliadau Gŵyl Tafwyl felly bydd y ddinas yn fwrlwm o ddigwyddiadau tan y dydd Gwener canlynol. Mi fydd Rachel ac Einir, cyflwynwyr Cyw yn darllen straeon ac yn canu yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ddydd Llun (17 Medi) am 10.30 a 1.30, a bydd cyfle i chi weld rhai o gomediwyr newydd, mwyaf disglair a digrif Cymru o gyfres Gigl, S4C mewn noson arbennig gyda Steffan Alun, Frank Honeybone, Noel James, Dan Thomas, Huw Marshall ac Alun Saunders yn Chapter nos Fawrth (18 Mehefin) am 8.00.

Ewch draw i Tafwyl.org i weld yr amserlen lawn o ddigwyddiadau.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?