S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymchwil Annibynnol: Gwerth Economaidd S4C ddwbl ei chyllideb flynyddol

13 Mehefin 2013

£1 o arian i S4C yn golygu bron i £2 i Economi Cymru

Mae S4C wedi datgelu bod astudiaeth economaidd wedi dangos bod pob punt y mae’r sianel yn ei wario ar gynnwys yn creu bron i ddwy bunt o werth ychwanegol i economi Cymru.

Yn ôl cwmni Arad sydd wedi cwblhau’r gwaith ymchwil, mae pob £1 o wariant S4C yn y diwydiannau creadigol yn creu effaith economaidd o £1.95 ar y diwydiannau hynny yng Nghymru.

Roedd y gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu gan S4C fel rhan o’r broses o fesur llwyddiant ac effeithlonrwydd y sianel.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C, mae’r ymchwil yn dangos bod S4C yn chwarae rôl bwysig yn gyrru gweithgaredd economaidd ymlaen, ac yn cynnal miloedd o swyddi.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

"Mae’n glir o’r gwaith ymchwil yma bod gwerth economaidd S4C i Gymru yn sylweddol iawn. Mae’r ffigyrau’n dangos bod gwerth y sianel i’n heconomi bron i ddwbl y swm sy’n cael ei dalu i mewn i S4C o ffynonellau cyhoeddus.

"Roedden ni eisoes yn ymwybodol bod tua dwy fil o swyddi’n cael eu cynnal gan weithgaredd S4C ledled Cymru. Mae’r mwyafrif helaeth o’r rheiny’n swyddi sy’n gwasanaethu’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol sydd wedi’u lleoli ym mhob rhan o Gymru.

"Mae’r ymchwil yma’n dangos pa mor bwysig mae hi wedi bod inni flaenoriaethu gwariant ar gynnwys yn ystod y cyfnod o dorri ariannol, ac mae’n glir bod S4C yn llwyddo i chwyddo gwerth yr arian ry’ ni’n ei dderbyn er mwyn creu buddiannau llawer mwy i economi Cymru gyfan."

DIWEDD

Nodiadau:

Mae dadansoddiad wedi’i wneud gan Arad Research, yn benodol ynglŷn ag effaith a gwariant S4C ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar egwyddor y “Keynesian Multiplier Effect”, lle mae’r gwariant cychwynnol o ganlyniad i weithredoedd S4C yn troi’n incwm i fusnesau diwydiannau creadigol eraill, sydd yn ei dro yn sbarduno rowndiau pellach o wario gan y diwydiannau hynny ar ffurf buddsoddi a chyflogi.

Ychwanegwyd at y dadansoddiad gan arolwg o gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau i S4C ac mae’n awgrymu bod:

• gwariant cychwynnol o £63.7 miliwn gan S4C ar raglenni a chynnwys yn 2012 gan gwmnïau annibynnol yng Nghymru, wedi creu effaith economaidd ychwanegol o £60.5 miliwn ac effaith economaidd gyfan o £124.3 miliwn ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

• pob punt a wariwyd ar gynnwys gan gwmnïau annibynnol yng Nghymru wedi creu effaith economaidd gyfan o £1.95 ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Ffigyrau manwl:

Gwariant yng Nghymru 2012 £63,736,544.67

Gwariant y tu allan i Gymru 2012 £212,412.50

Effaith economaidd ychwanegol ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru 2012 £60,527,495.81

Cyfanswm effaith economaidd ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru 2012 £124,264,040.48

• Ers ei sefydlu yn 1982, mae S4C wedi buddsoddi dros £2.2bn o bunnau yn economi Cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?