S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

App newydd ar gyfer Y Sioe Frenhinol

17 Gorffennaf 2013

Map, digwyddiadau, cystadlaethau a chanlyniadau. Mae S4C wedi rhyddhau app newydd er mwyn sicrhau na fyddwch chi’n colli dim o gyffro'r Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd eleni.

Mae App Sioe Frenhinol Cymru yn cynnwys map rhyngweithiol o faes y Sioe fydd yn ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i bob atyniad a stondin ar y maes. Mae hefyd yn cynnwys amserlen lawn o holl ddigwyddiadau a chystadlaethau'r diwrnod a bydd modd i chi lunio eich amserlen eich hun hefyd, i sicrhau nad ydych yn methu'r un digwyddiad.

Mae'r app dwyieithog hefyd yn cynnwys canlyniadau diweddaraf y cystadlaethau, gwybodaeth tywydd a thraffig ac adran gyfryngau fydd yn casglu lluniau, straeon, blogs a fideos o'r maes.

Mae App Sioe Frenhinol Cymru yn brosiect newydd sbon sydd wedi ei ddatblygu yn arbennig ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2013 ar y cyd rhwng Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac S4C.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, "Roeddem yn falch o gyd-weithio gyda’r Sioe Frenhinol i ddatblygu'r app arbennig hwn. Mae’n ddyfais hwylus sy’n llawn adnoddau defnyddiol ac yn dangos sut mae modd i ddigwyddiadau poblogaidd fel Y Sioe Frenhinol fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf."

Mae’r app ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim ar gyfer iPhone a ffonau Android.

Gellir lawr lwytho'r App ar gyfer iPhone, iPod touch ac iPad o'r iTunes Store: http://moil.in/royalwelshios

Ac ar gyfer ffonau Android gan gynnwys Samsung, HTC, Nokia a Motorola o Google Play: http://moil.in/royalwelshdroid

Ac os nad oes modd i chi fynd i'r Sioe eleni cofiwch y bydd S4C yn cynnig darllediadau di-dor o faes y Sioe ar y teledu ac arlein ar wefan S4C. Rhwng 9.00 a 5.00 o ddydd Llun, 22 Gorffennaf i ddydd Iau, 25 Gorffennaf bydd y cyflwynwyr Dai Jones, Nia Roberts, Ifan Jones Evans a Meinir Jones yn gohebu o wahanol gylchoedd ac ardaloedd ar y maes.

Wyn Gruffydd a David Oliver fydd yn sylwebu o’r prif gylch a gyda'r nos bydd Shân Cothi’n crynhoi digwyddiadau’r dydd yng nghwmni Dai Jones am 8.25 a 9.30. Bydd modd i wylwyr di-Gymraeg fwynhau sylwebaeth Saesneg ar y darllediadau byw ar y botwm coch a bydd isdeitlau Saesneg ar raglenni uchafbwyntiau’r nos.

Yn ogystal â hyn oll bydd darllediad o holl gystadlu'r prif gylch i'w weld trwy ffrwd fyw ar y we wrth iddyn nhw ddigwydd o 8.00 y bore tan ddiwedd cystadlu'r dydd, gyda modd i'w wylio yn fyd-eang felly boed ar y Maes neu'n gwylio adra, bydd S4C yn dod a holl amrywiaeth y Sioe i chi eto eleni.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?