S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Comisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau i adael S4C

08 Gorffennaf 2013

Mae Geraint Rowlands wedi penderfynu gadael ei swydd fel Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C.

Dywedodd Geraint ei fod yn gadael er mwyn dilyn cyfleoedd creadigol newydd.

Mae Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys wedi diolch i Geraint am ei gyfraniad i waith y Sianel dros y chwe blynedd diwethaf.

Dywedodd Dafydd Rhys:

"Hoffwn i gymryd y cyfle yma i ddiolch yn fawr iawn i Geraint am ei holl waith yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pawb yn S4C wrth ddweud ei bod hi wedi bod yn bleser i gydweithio gydag e. Ry' ni i gyd yn dymuno pob dymuniad da iddo i’r dyfodol."

Dywedodd Geraint Rowlands:

"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys cyfnodau hapus, adeiladol a heriol ac rydw'i wedi bod yn ffodus i gael gweithio gyda chymaint o bobl greadigol, dalentog a gweithgar. Hoffwn ddiolch i'r timau cynhyrchu am eu cefnogaeth a'u hymroddiad. Mae S4C wedi wynebu nifer o sialensiau anodd iawn dros y tair blynedd diwethaf, ond gyda chyfnod o sefydlogrwydd bellach ar y gorwel dan arweiniad Ian Jones, hoffwn ddymuno’r gorau iddo fe a gweddill y tîm yn S4C."

Nodiadau:

• Mae Geraint Rowlands yn gadael ei rôl heddiw.

• Mi fydd gwaith comisiynu Chwaraeon yn cael ei wneud dros dro gan y Comisiynydd Ffeithiol, Llion Iwan.

• Fe fydd gwaith comisiynu Digwyddiadau yn cael ei wneud dros dro gan y Cyfarwyddwr Cynnwys, Dafydd Rhys.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?