S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

26 enwebiad BAFTA Cymru i raglenni S4C – a chanmoliaeth i dalentau newydd

03 Awst 2013

Mae rhaglenni S4C wedi derbyn 26 enwebiad ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru 2013.

Yn eu plith mae'r rhaglen ddogfen Gerallt (Cwmni Da) oedd yn un o uchafbwyntiau amserlen Gŵyl Ddewi 2013.

Daw enwebiadau pellach i ddogfennau S4C yn y categori Torri Drwodd sy'n cydnabod gwaith rhagorol gan bobl sy'n gymharol newydd i'w maes. Mae'r bar-gyfreithiwr Gwion Lewis wedi ei enwebu am ei waith yn cyflwyno'r ddogfen Cymdeithas yr Iaith yn 50 (Rondo). Hefyd y gantores Meinir Gwilym, a wnaeth droi ei llaw at gyfarwyddo a chynhyrchu i greu'r rhaglen emosiynol, onest a gafaelgar O'r Galon: Karen (Cwmni Da).

Yn gydnabyddiaeth pellach i gyfraniad S4C yn magu talentau newydd o fewn y diwydiant, mae enwebiad i'r ffilm fer Cân i Emrys (Double Agent Cyf). Rhoddwyd y comisiwn i'r myfyriwr Osian Williams o Graigwen ym Mhontypridd, oedd ar y pryd ar ei drydedd flwyddyn ym mhrifysgol Bangor yn astudio cyfathrebu a'r cyfryngau.

Dogfen deimladwy arall sydd wedi ei henwebu yw Fy Chwaer a Fi (Boom Pictures Productions). Mae'r rhaglen eisoes wedi ennill gwobr Medal Aur yn y New York Festivals Awards eleni. Tra bod Fy Chwaer a Fi yn gobeithio am wobr Cyfarwyddwr Ffeithiol gorau, mae'r ddogfen Llefydd Sanctaidd (Cwmni Da) wedi ei henwebu yn y categori Cyfres Ffeithiol.

Mae rhaglenni materion cyfoes yn cael eu cydnabod hefyd, gyda dwy raglen gan dîm Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru) yn cystadlu yn y categori Materion Cyfoes. Mae darllediad tîm Newyddion (BBCCymru Wales) o'r Gemau Olympaidd wedi ei henwebu yn y categori Darllediadau Newyddion.

Mae tair rhaglen i wylwyr iau y Sianel wedi eu henwebu: Bla Bla Blewog (Adastra), Stwnsh Sadwrn (Boom Pictures Productions) a'r gyfres Makaton Dwylo'r Enfys (Ceidiog).

Mae S4C wedi rhagori yn y maes Rhaglen Chwaraeon a Darllediadau Allanol Byw, gyda phob un o enwebiadau'r categori wedi eu darlledu ar y Sianel: Y Sioe 12 (Boom Pictures Productions); Sgorio (Rondo); Y Clwb Rygbi Ryngwladol (BBC Cymru Wales).

Mae Dramau hefyd ymhlith yr enwebiadau, sef Alys (Teledu Apollo), Gwaith Cartref (Fiction Factory) a Gwlad yr Astra Gwyn (Rondo). Mae Sara Lloyd-Gregory wedi ei henwebu am yr Actores Orau am ei rôl fel Alys, a Rhodri Meilir am yr Actor Gorau, fel prif actor Gwlad yr Astra Gwyn. Ac mae Siwan Jones, awdur Alys, wedi ei henwebu am wobr yr Awdur gorau.

Mae Aled Sam wedi ei enwebu am wobr Cyflwynydd Gorau, yn y gyfres Sam ar y Sgrin (Tinopolis), ac mae Côr Cymru (Rondo) wedi ei enwebu yn y categori Cerddoriaeth ac Adloniant.

Mae enwebiad hefyd i'r cwmni dylunio Rough Collie am eu waith Effeithiau Gweledol a Graffeg yn yr ymgyrch Calon Cenedl i hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

"Mewn blwyddyn lle mae BAFTA wedi derbyn y nifer mwyaf erioed o geisiadau ac wedi cyhoeddi bod y safon yn aruthrol o uchel mae S4C wedi llwyddo i dderbyn 26 o enwebiadau.

"Mae hyn yn dangos bod cynnyrch S4C o'r safon uchaf a hoffwn longyfarch a diolch i'r sector gynhyrchu, yn annibynnol ac o fewn BBC Cymru Wales ac ITV Cymru, am eu gwaith caled a'u creadigrwydd mewn cyfnod anodd yn ariannol. Er y rhwystrau, mae S4C a'r darparwyr yn cadw eu huchelgais i sicrhau'r cynnyrch o'r safon uchaf ar draws pob genre, ac mae'r 26 enwebiad yn brawf o hynny."

Bydd Matt Johnson a Sian Lloyd yn cyflwyno'r gwobrau i'r enillwyr yn Seremoni Wobrwyo Academi Prydeinig Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sul 29 Medi.

Mae rhestr lawn o enwebiadau'r Gwobrau ar gael ar wefan BAFTA Cymru.

Diwedd

Rhestr lawn o enwebiadau S4C:

Darllediadau'r Newyddion: Newyddion – Y Gemau Olympaidd

Materion Cyfoes: Y Byd ar Bedwar: Marwolaethau Cyffuriau ym Môn; Y Byd ar Bedwar: April Jones

Cyfres Ffeithiol: Llefydd Sanctaidd

Dogfen Sengl: Gerallt

Cerddoriaeth ac Adloniant : Côr Cymru: Corau Plant

Rhaglen Chwaraeon a Darllediadau Allanol Byw: Y Sioe 12; Sgorio; Y Clwb Rygbi Rhyngwladol

Rhaglen Blant yn Cynnwys Animeiddio: Stwnsh Sadwrn;, Dwylo'r Enfys

Ffurf Byr: Cân i Emrys

Effeithiau Gweledol a Graffeg: Bla Bla Blewog; Calon Cenedl

Cyfarwyddwr Ffeithiol: Gerallt; Fy Chwaer a Fi

Ffotograffiaeth a Goleuo: Alys; Gwaith Cartref

Ffotograffiaeth Ffeithiol: Gerallt

Cerddoriaeth Wreiddiol: Gerallt

Awdur: Siwan Jones (Alys)

Actor: Rhodri Meilir (Gwlad yr Astra Gwyn)

Actores: Sara Lloyd Gregory (Alys)

Cyflwynydd: Aled Sam (Sam ar y Sgrin)

Gwobr Torri Drwyodd: Gwion Lewis (Cymdeithas yr Iaith yn 50); Meinir Gwilym (O'r Galon: Karen)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?