S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni S4C ar gael ar TVCatchup

06 Awst 2013

Mae bellach yn bosib gwylio rhaglenni S4C yn fyw ar y gwasanaeth ar-lein TVCatchup.

Cafodd y gwasanaeth newydd ei lansio'r prynhawn yma (Mawrth, 6 Awst) yr un diwrnod â'r cyhoeddiad bod S4C yn bwriadu ehangu'r Sianel i blatfformau digidol newydd.

Mae TVCatchup yn wasanaeth sy'n caniatáu gwylio sianeli teledu’n fyw dros y we. Mae am ddim i'w ddefnyddio ac yn cynnwys dros 50 o sianeli. Mae hefyd ar gael ar ffonau clyfar. Bydd rhaglenni S4C ar gael i'w gwylio ar draws y DU drwy fynd i tvcatchup.com

Dywedodd Bruce Pilley, Cadeirydd TVCatchup, "Mae S4C yn arwain y ffordd drwy fynd ati i gydweithio â ni er mwyn ymestyn ei gwasanaeth cyhoeddus i gynulleidfa ehangach. Rydym yn edrych ymlaen at fwynhau perthynas ffrwythlon a pharhaol gydag S4C ac rydym yn cynllunio i adeiladu partneriaethau tebyg gyda gwasanaethau darlledu cyhoeddus eraill."

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae lansio S4C ar TVCatchup yn nodi datblygiad sylweddol arall i S4C wrth i ni ehangu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd sy'n tyfu ar blatfformau digidol. I ni yn S4C, mae cynnig ein Sianel ar wasanaethau fel hyn yn ehangu'r cyfleoedd i bobl wylio ein rhaglenni gwych. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda TVCatchup wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod ein cynnwys ar gael ar gymaint o blatfformau ag sy'n bosib yn yr oes ddigidol."

Mae S4C hefyd wedi cyhoeddi bwriad i lansio'r gwasanaeth ar blatfformau YouView, YouTube a BBC iPlayer. Cliciwch yma i ddarllen y datganiad

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?