S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi ffyrdd newydd o wylio cynnwys y Sianel

06 Awst 2013

  Mae S4C wedi cyhoeddi rhes o fentrau newydd fydd yn cynyddu cyfleoedd i wylio’r Sianel yn yr oes ddigidol.

Bydd rhaglenni’r Sianel ar gael ar gannoedd o blatfformau digidol newydd er mwyn galluogi’r cyhoedd i’w gwylio mewn ffyrdd gwahanol.

Mi fydd cynnwys y Sianel ar gael i’w ffrydio ar y gwasanaethau ar-lein ac ar-alw canlynol:

• YouView

• TV Catchup

• YouTube

• BBC iPlayer

Mae YouView yn wasanaeth ar-alw sydd ar gael drwy focs sy’n cysylltu â’r teledu. Mae’r nifer o gartrefi sy’n derbyn y gwasanaeth ar draws y DU yn agosáu at 400,000 ers iddo gychwyn y llynedd.

Mae TV Catchup yn wasanaeth ar-lein am ddim sy’n caniatáu i chi wylio teledu byw drwy’r cyfrifiadur, ar ffôn clyfar a thrwy ddyfeisiadau eraill sy’n cysylltu â’r we. Mae’n cynnwys dros 50 o sianeli.

Mae YouTube yn un o wasanaethau ar-lein mwyaf adnabyddus y byd. Mae S4C wedi ffurfio partneriaeth gyda YouTube sy’n cynnig cyfleoedd i ffrydio cynnwys y Sianel yn fyw – ac i gynnig rhai elfennau o gynnwys ffurf byr ar-alw cyn diwedd y flwyddyn.

Y BBC iPlayer yw gwasanaeth ar-alw’r BBC, sy’n ymddangos ar y we ac ar tua 650 o blatfformau eraill. Ar hyn o bryd, mae rhai rhaglenni S4C ar gael ar y gwasanaeth, ond yn dilyn cytundeb gydag Ymddiriedolaeth y BBC, fe fydd holl gynnwys y Sianel ar gael ar yr iPlayer o ddiwedd 2014. Cliciwch yma i ddarllen mwy am gynnwys S4C ar BBC iPlayer

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae’r cyhoeddiadau hyn yn dangos bod S4C o ddifri am sicrhau bod y Sianel ar gael mewn cymaint â phosib o ffyrdd wrth inni symud i mewn i’r oes ddigidol.

“Mae’r gwasanaeth ar y teledu’n dal i fod yn bwysig iawn i ni wrth gwrs, ond mae nifer gynyddol o bobl yn defnyddio platfformau digidol i wylio - yn enwedig gwasanaethau ar-alw.

“Mae S4C yn rhedeg ei gwasanaeth ar-alw ei hun ar-lein, Clic, ac mae’r gynulleidfa’n ei ddefnyddio’n gynyddol. Ond o ran codi ymwybyddiaeth o S4C a’n rhaglenni gwych, mae’n rhaid gosod ein cynnwys ar blatfformau mawr eraill – a’r rhai sy’n tyfu hefyd wrth gwrs.

“Fe ddwedais wrth gymryd yr awenau fel Prif Weithredwr S4C y byddwn am gryfhau ein presenoldeb ar blatfformau newydd yn sylweddol, ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn dangos bod y gwaith yna’n digwydd. Ond fel gyda thechnoleg ei hun, dyw’r datblygiadau byth yn stopio, ac i S4C bydd y gwaith o ganfod platfformau newydd a chyfleoedd newydd i arddangos ein cynnwys yn parhau.”

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?