S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gêm Abertawe yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C

27 Awst 2013

S4C yw'r unig sianel ym Mhrydain fydd yn dangos gêm ddiweddara’r Elyrch yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa ar nos Iau, 29 Awst.

Yn fyw ac yn ecsgliwsif ym Mhrydain, bydd rhaglen Sgorio yn darlledu FC Petrolul v Abertawe wrth i'r Elyrch chwarae'r ail gymal yn rowndiau rhagbrofol ola'r gystadleuaeth.

Yn dilyn eu buddugoliaeth yng nghymal cynta'r rownd ragbrofol o 5 gôl i 1 ar y Liberty nos Iau ddiwethaf, bydd yr Elyrch yn teithio i Romania ar gyfer y gêm hon yn llawn hyder y gall eu hymgyrch yng Nghynghrair Europa barhau. Ond fe all unrhyw beth ddigwydd yn y byd pêl-droed a rhaid goresgyn y daith anodd i Romania yn gyntaf.

Gwyliwch y cyfan ar S4C ar nos Iau 29 Awst am 6.10 gyda'r gic gyntaf am 6.30. Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gêm drwy'r gwasanaeth botwm coch.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru – Sky 104; Freeview 4, Freesat 104; Virgin 166. Yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon mae’r sianel ar gael ar Sky 134; Freesat 120; Virgin TV 166.

Mi fydd hefyd yn cael ei darlledu'n fyw ar-lein drwy Brydain ar wefan S4C - s4c.co.uk/clic. Bydd ar gael i'w gwylio eto ar alw am 35 diwrnod. Mae modd gwylio S4C yn fyw ledled y DU ar wefan tvcatchup.com

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C, "'Da ni'n falch iawn o allu cynnig y cyfle i'n gwylwyr ddilyn clwb pêl-droed Abertawe ar eu hymgyrch gyntaf yn Ewrop ers dros ugain mlynedd. S4C fydd yr unig le i wylio ail gymal y rownd ragbrofol ola' yn fyw ar deledu drwy Brydain - sef y gêm a all selio eu lle yng Nghynghrair Europa."

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Sgorio: FC Petrolul v Abertawe (YN FYW)

Nos Iau 29 Awst 6.10

Sut i wylio S4C:

Yng Nghymru: Sky 104; Freeview 4; Virgin TV 166; Freesat 104

Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon: Sky 134; Freesat 120; Virgin TV 166.

Ar-lein ac ar alw ar draws y DU ar s4c.co.uk/clic

Mae modd gwylio S4C yn fyw ledled y DU ar wefan tvcatchup.com

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?