S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rygbi ar S4C – o'r gwreiddiau i'r lefel uchaf

30 Awst 2013

Bydd S4C yn rhoi sylw i rygbi ar bob llwyfan y tymor hwn – o Stadiwm y Mileniwm i gaeau ein colegau a'n hysgolion.

Ar drothwy dechrau tymor rygbi 2013/14, mae S4C yn falch o gyhoeddi ei darpariaeth rygbi ar gyfer y tymor sy'n cynnwys Gemau Rhyngwladol Tymor yr Hydref; Pencampwriaeth y Chwe Gwlad; Cynghrair y RaboDirect Pro12; Cwpan Heineken; Uwch Gynghrair Principality; Rygbi'r Colegau ac Ysgolion.

Ym mis Tachwedd, bydd tîm Cymru yn ysu i ddychwelyd i'r cae i wynebu timoedd hemisffer y de unwaith eto, gan obeithio efelychu llwyddiant taith y Llewod i Awstralia ym mis Gorffennaf. A fydd hyder buddugoliaeth y daith honno yn sbardun i drechu De Affrica, Yr Ariannin, Tonga, ac Awstralia ym mis Tachwedd? A fydd dynion Warren Gatland yn gallu cadw’r momentwm tan ddechrau Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad 2014?

Gwyliwch holl gemau'r hydref a'r Chwe Gwlad yn fyw ar Y Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C gyda thîm chwaraeon BBC Cymru wrth y llyw.

Yng nghynghrair y RaboDirect Pro 12, bydd Y Clwb Rygbi yn dilyn y Gweilch, Gleision, Dreigiau a'r Scarlets o'r dechrau i'r diwedd, gyda gêm fyw bob penwythnos ar S4C. Byddwn yn mynd i'r Eidal ar gyfer gêm fyw gynta'r Sianel, ar nos Sadwrn 7 Medi (cic gyntaf 6.30), rhwng Treviso a'r Gweilch. Gareth Roberts sy'n cyflwyno gyda Huw Llywelyn Davies a Gwyn Jones yn sylwebu a Cennydd Davies yn adrodd o ochr y cae.

Yr wythnos ganlynol byddwn ar Barc y Scarlets ar gyfer Scarlets v Treviso ar 14 Medi, ac yna Gweilch v Caeredin ar 21 Medi. Ac wrth i'r pedwar rhanbarth fentro i Ewrop bydd y gyfres Cwpan Heineken (sy’n gynhyrchiad gan gwmni SMS) yn cynnig uchafbwyntiau pob un o'u gemau gydol y daith.

Y tu hwnt i'r rhanbarthau, mae S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru sy'n golygu y bydd rhai o gemau tymor Uwch Gynghrair Principality yn cael eu darlledu'n fyw ar y Sianel. Y gêm gyntaf fydd Llanymddyfri v Caerdydd ar ddydd Sul 15 Medi (cic gyntaf 2.30).

Mae tair gêm Principality arall wedi eu cadarnhau: Abertawe v Castell-nedd, 22 Medi; Pontypridd v Casnewydd, 29 Medi; Bedwas v Llanelli, 6 Hydref.

A bydd cyngreiriau rygbi'r Colegau a’r Ysgolion yn cael sylw hefyd drwy gydol y tymor. Dyma ble mae sêr y dyfodol yn dysgu eu crefft ac mae'n bosib iawn bod sêr rhyngwladol y dyfodol yn eu plith. Bydd gemau yn cael eu dangos yn fyw ar wefan S4C, gyda chyfle arall i'w gwylio yn llawn ar y Sianel gyda'r nos.

Bydd y gêm gyntaf o blith cynghrair y Colegau yn cael ei dangos yn fyw ar-lein ar 25 Medi.

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Rydym yn falch o gyhoeddi amserlen rygbi S4C ar gyfer tymor 2013/14 a'r amrywiaeth sy'n rhoi sylw i bob agwedd o'r gamp. O'r hogia' proffesiynol ar y llwyfannau Rhyngwladol a Rhanbarthol, i glybiau Uwch Gynghrair y Principality ac i'r prentisiaid sy'n magu eu talent ar gaeau colegau ac ysgolion Cymru – mae rygbi Cymru’n cael ei adlewyrchu’n llawn ar S4C."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?