S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llywodraeth Cymru’n gyndyn i gyfaddef diffygion y gwasanaeth iechyd - Ann Clwyd

12 Medi 2013

Mae Llywodraeth Cymru’n ymddangos yn gyndyn i gyfaddef bod diffygion difrifol yng Ngwasanaeth Iechyd Cyhoeddus y wlad, yn ôl yr Aelod Seneddol, Ann Clwyd.

Yr Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon yw gwestai cyntaf y cyflwynydd a’r bargyfreithiwr o Langefni, Gwion Lewis mewn cyfres newydd Siarad o Brofiad, yn dechrau heno am 9.30pm ar S4C.

Mae Ann Clwyd wedi galw eisoes am ymchwiliad annibynnol cyhoeddus i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn dilyn adroddiad gan lawfeddygon sy’n awgrymu sefyllfa beryglus lle mae cleifion yn marw’n rheolaidd wrth aros am lawdriniaethau.

Bu Ann Clwyd yn feirniadol o’r driniaeth gafodd ei diweddar ŵr, Owen Roberts, yn yr ysbyty. Yn ddiweddar, fe’i penodwyd i wneud arolwg o’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr. Ers iddi wneud safiad ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd, mae Ann Clwyd wedi derbyn tua 2,500 o lythyron ac e-byst wrth bobl yn pryderu am driniaeth eu rhieni neu berthnasau - 20% o’r negeseuon o Gymru.

Yn ôl ystadegau mae Ann Clwyd ei hunan wedi eu darganfod drwy lyfrgell y Tŷ’r Cyffredin, mae sefyllfa’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru yn waeth na’r sefyllfa yn Lloegr. “Gofynnais iddyn nhw gymharu Cymru a Lloegr a’r diagnostics yn y ddwy wlad ac mae Cymru ar ôl Lloegr ymhob un. Mae’n ymddangos bod pethau’n ddrwg iawn.”

Mewn ateb i awgrym Gwion Lewis fod Llywodraeth Cymru’n rhoi’r argraff nad oes fawr o broblem yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, awgrymodd Ann Clwyd fod Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn anfodlon cyfaddef bod y sefyllfa’n un ddifrifol. “Dwi’m isio beirniadu ond, ar yr un pryd, mae ‘na ddiffygion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac mae’n rhaid cyfaddef bod ‘na ddiffygion ac mae’n rhaid eu gwynebu nhw.

“Faswn i ddim wedi siarad allan fel ydw i am hynny oni bai mod i’n gweld bod pobl ddim fel eu bod nhw’n cyfaddef bod problemau yng Nghymru ac eto mae’r llythyrau dwi ‘di gael o dros Gymru i gyd yn ei gwneud hi’n berffaith blaen bod yna broblemau yng Nghymru.”

Yn y rhaglen mae Ann Clwyd hefyd yn trafod ei safiadau dros hawliau dynol mewn achosion eraill fel y Cwrdiaid fu’n dioddef o dan ymerodraeth Saddam Hussein yn Irac, Bradley Manning, y milwr Americanaidd ryddhaodd wybodaeth filwrol i wefan Wikileaks a'r anghydfod yn Syria.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?