S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Plas – cerdd arbennig gan Fardd Cenedlaethol Cymru

16 Medi 2013

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke wedi ysgrifennu cerdd arbennig i gyd-fynd â chyfres hanes byw gyntaf S4C, Y Plas.

Mae'r bardd o Gaerdydd sydd hefyd yn ddramodydd, yn olygydd ac yn gyfieithydd bellach yn byw yn Nhalgarreg yng Ngheredigion, dafliad carreg o ble bydd y gyfres hanes byw yn cael ei ffilmio ym Mhlas Llanerchaeron.

Cyfres hanes byw fydd yn mynd a chriw yn ôl i Gymru 1910 yw Y Plas. Mae'r gyfres yn cychwyn ar S4C nos Sul 15 Medi am 8.30pm, ac ymlaen ar y Sianel bob nos Sul, nos Lun, nos Fercher a nos Wener hyd nos Sul 6 Hydref.

Ar Y Plas cawn weld un teulu a deuddeg o unigolion dewr arall yn byw ym Mhlas Llanerchaeron am dair wythnos a hynny dan amodau Cymru 1910. Mi fydd y teulu yn byw fel teulu bonedd cefnog lan lofft, a'r gweddill yn gweini arnynt fel gweision a morynion lawr llawr. Tybed sut fydden nhw yn ymdopi gyda bywyd eu cyndeidiau? A sut awyrgylch fydd ym Mhlas Llanerchaeron wrth iddo ddeffro o drwmgwsg canrif?

Mae Menna Elfyn, y bardd o Landysul sydd hefyd yn ddramodydd ac yn awdur llawn amser, ac sydd wedi cyfieithu nifer helaeth o gerddi'r Bardd Cenedlaethol i'r Gymraeg, hefyd wedi cyfieithu cerdd arbennig Y Plas i'r Gymraeg.

Y Plas

Hed amser, ac mae’r tŷ’n effro

a chanrif heb fynd heibio.

Cân y ceiliog, glas y dydd, clocsiau ar glôs

dŵr o’r ffynnon, clindarddach piser,

clochdar ieir, wyau cochliw mewn basged

cist lo, i gynhesu’r aelwyd.

Morwyn fach yn ei phlyg yn godro,

llifeiriant llaeth i’r llestr pren,

sêr o fenyn yn gloywi o’r fuddai,

torthau cynnes yn oeri ar fwrdd y gegin.

Deffra’r ledi. Cawg o ddŵr claear

ar fwrdd golchi, dillad y dydd mewn trefn.

Glo’n cochi’n y grât. Bonheddwr y Plas

ar gefn ei geffyl yn gwylio’r gweision yn chwalu’r gwair.

Yma y plant yn torri gair ar lechi, rhifo abacus,

taw piau hi, blant bach! O dan y to hwn -

boed eich geni’n freintiedig neu dlawd oeddech,

dihuno yn y tŷ mawr, ar ôl canrif o gwsg.

Gillian Clarke

Cyfieithiad i’r Gymraeg gan Menna Elfyn

Am ragor o wybodaeth am y gyfres ewch i s4c.co.uk/yplas. Cliciwch ar y ddolen Saesneg i ddarllen cerdd wreiddiol Gillian Clarke.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?