01 Hydref 2013
Mae S4C am ddarparu gwasanaeth arwyddo ar Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar gyfer gwylwyr byddar.
Gan ddechrau heddiw, dydd Mawrth, 1 Hydref bydd cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain ar y sgrin yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog sy'n rhan o raglen Y Dydd yn Y Cynulliad S4C.
Darlledir Y Dydd yn y Cynulliad bob nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau ar S4C am 12.05am gyda sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar raglen nos Fawrth.
Mae'r gwasanaeth arwyddo yn ddatblygiad newydd yn sgil cytundeb rhwng S4C, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
"Ry'n ni'n falch iawn o gyhoeddi'r datblygiad newydd hwn sy'n golygu bod gwasanaeth arwyddo ar sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r sesiwn yn un bwysig iawn i bobl Cymru ac rydym am sicrhau bod y rhaglen ar gael i gymaint o bobl â phosib."
Meddai Norman B Moore, Cyfarwyddwr Cyngor Cymru i Bobl Fyddar:
“Mae menter S4C i ddarlledu Cwestiynau i'r Prif Weinidog gyda BSL yn un yr ydym yn ei chroesawu yn fawr ac mae'n gam i'r cyfeiriad cywir o ran ehangu'r ddarpariaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr BSL o fewn y byd darlledu.”
Bydd y Cynulliad hefyd yn darlledu Cwestiynau i'r Prif Weinidog wedi ei arwyddo yn fyw ar eu system deledu fewnol yn Y Senedd.
Dywedodd y Llywydd, Rosemary Butler AC:
"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o allu cefnogi a hwyluso S4C yn ei hymgyrch i ddarparu cyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer Cwestiynau Prif Weinidog Cymru wrth ddarlledu gwaith y Cynulliad.
"Mae'n rhaid i'r Cynulliad ymgysylltu â phob cymuned yng Nghymru a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu darlledwyr i gyflawni'r nod hwn.
"Mae gennym record dda mewn perthynas â materion cydraddoldeb ac yn ddiweddar cawsom y nod siarter Yn Uwch Na Geiriau gan Action on Hearing Loss. Mae S4C yn cymryd cam mawr i ddarparu ar gyfer y rheiny sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw, a dylai gael ei chanmol am wneud hynny."
Diwedd
Nodiadau
Iaith weledol yw Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gyda chystrawen unigryw, a gramadeg a geirfa ei hun. Mae arwyddo ar y sgrin yn gyfieithiad o ddeialog rhaglen i iaith arwyddo Prydain. Cyfieithydd sy'n gyfrifol am y gwaith yma, a chaiff delwedd y person hynny ei osod ar y rhaglen.