S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Chloe yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel

07 Hydref 2013

Enillodd Chloe Angharad Bradshaw, ffliwtydd 20 oed, o Hengoed, Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2013 mewn cyngerdd a ddangoswyd yn fyw ar S4C neithiwr - nos Sul 6 Hydref. Cynhaliwyd y cyngerdd yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda Nia Roberts ac Ifan Jones Evans yn cyflwyno.

Roedd Chloe yn un o chwe chystadleuydd am yr Ysgoloriaeth. Mae cyfle i weld y cyngerdd eto yn y rhaglen Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2013 am 35 niwrnod ar wasanaeth ar-lein S4C - s4c.co.uk/clic

Roedd y chwech a oedd yn cystadlu am yr ysgoloriaeth a gwobr ariannol o £4,000 i gyd yn enillwyr cystadlaethau unigol dan 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro eleni.

Yn enedigol o Hengoed, bellach mae Chloe yn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Crist, Prifysgol Rhydychen a hi yw Llywydd Cymdeithas Gerdd y Brifysgol. Mae hi hefyd yn aelod blaenllaw o Gerddorfa a Sinffonieta’r Coleg. Yn ffliwtydd, bu’n gyn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Prydain lle cafodd gyfle i deithio a pherfformio ar rai o lwyfannau mwyaf adnabyddus Prydain. Chloe yw enillydd ieuengaf Cerddor Ifanc y flwyddyn Caerffili ac ers hynny mae wedi profi llwyddiannau cyson fel unawdydd gan gipio’r Rhuban Glas offerynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ennill y teitl Cerddor ifanc mwyaf addawol Gregynog yn 2010.

Mae Chloe wedi ennill nifer o wobrwyon eisoes. Ar ôl derbyn y wobr ddiweddaraf neithiwr, dywedodd Chloe: “Doeddwn ni ddim yn credu. Dyma’r wobr fwyaf imi ennill yng Nghymru - does 'na’m braint fwy imi yng Nghymru. Fy mwriad nawr yw dal ati i berfformio ac rwy’n gobeithio gwneud gradd uwch yn Llundain, Ewrop neu America.”

Y pump arall oedd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth oedd:

• Gareth Davies, 20 oed, o San Clêr, Sir Gaerfyrddin, enillydd yr unawd allan o sioe gerdd

• Dion Lloyd Davies, 19 oed, o Gastell Newydd Emlyn, enillydd y cyflwyniad theatrig

• Trystan Gruffydd, 16 oed, o Efail Wen, Pontypridd, enillydd y ddawns werin unigol i fechgyn

• Steffan Rhys Hughes, 19 oed, o Langwyfan, ger Dinbych, enillydd yr unawd cerdd dant, cyflwyniad alaw werin a llefaru

• Rhodri Prys Jones, 21 oed, o Lanfyllin, Powys, enillydd yr unawd

Cynhyrchiad Avanti ar gyfer S4C yw’r rhaglen Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2013.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?