09 Hydref 2013
Mi fydd seremoni fawr Gwobrau cenedlaethol newydd Cymru, Gwobrau Dewi Sant, yn cael ei darlledu ar S4C fis Mawrth 2014 - ond pwy fydd yn cael cydnabyddiaeth wrth gael eu henwebu am y gwobrau?
Fe fydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno mewn digwyddiad yng Nghaerdydd – ac mae llai na mis i fynd bellach i enwebu’r bobl hynny sy’n eich tyb chi’n haeddu cael eu gwobrwyo.
Mae naw gwobr i gyd mewn amryw o feysydd fel rhan o’r cynllun cenedlaethol newydd sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru.
Felly ydych chi’n adnabod rhywun sy’n haeddu cydnabyddiaeth yng nghategorïau:
• Dewrder
• Dinasyddiaeth
• Diwylliant
• Menter
• Arloesedd a Thechnoleg
• Rhyngwladol
• Chwaraeon
• Person Ifanc
Hefyd ar y noson, fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn cyflwyno gwobr arbennig.
Am ragor o wybodaeth am y broses enwebu, cysylltwch drwy’r wefan y gwobrau, sef www.cymru.gov.uk/gwobraudewisant neu e-bostiwch gwobraudewisant@cymru.gsi.gov.uk
Meddai Comisiynydd Cynnwys S4C, Gaynor Davies: “Mae Gwobrau Dewi Sant yn rhoi platfform i gydnabod cyfraniadau arbennig gan bobl o bob rhan o Gymru mewn amryw o ffyrdd a dwi’n arbennig o falch mai S4C yw partner cyfryngol y cynllun.
“Dan ni gyd yn gyfarwydd â chymeriadau yn ein cymunedau sydd wir yn gweithio’n galed ac yn cyflawni pethau gwerthfawr i fywyd y genedl. Dwi’n mawr obeithio y bydd pobl ledled Cymru yn ystyried pwy o’u cymunedau nhw sydd wir yn haeddu cael eu cydnabod am eu cyfraniadau.
“Dan ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael dangos y seremoni wobrwyo ar S4C ac i gael edrych ar fywydau rhai o’r cymeriadau sy’n cael eu henwebu rhwng nawr a mis Mawrth ar ein rhaglen gylchgrawn nosweithiol, Heno.”
Yn lansiad y Gwobrau ym Mis Medi, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Efallai ein bod ni'n wlad fach, ond mae’n llwyddiannau’n rhai mawr. Pan gyhoeddais fy mwriad i gynnal y gwobrau hyn yn gynharach eleni, roeddwn am fedru cydnabod y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan bobl gyffredin Cymru, pobl sy'n gweithio'n ddiflino dros eraill ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd yng Nghymru, heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl.
“Mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi bod yn ddigon ffodus i gyfarfod rhywun fel hyn ar ryw adeg, a dyma'n cyfle i roi rhywbeth yn ôl. Rwy'n annog pobl i enwebu unrhyw un sy'n haeddu cydnabyddiaeth, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ddisgleirio.”
Diwedd