S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Fferm Ffactor i herio ffermwyr Tsieina

10 Hydref 2013

Mae'r gyfres Fferm Ffactor wedi recriwtio cynulleidfa yng ngwlad fwya' boblog y byd, wrth i'r fformat gael ei gwerthu i ddarlledwr yn Tsieina.

Mae fformat y gyfres her amaethyddol boblogaidd - sy'n profi sgiliau grŵp o ffermwyr ar bob agwedd o waith fferm - wedi ei drwyddedu gan y cynhyrchwyr Cymreig, Cwmni Da, i orsaf CCTV 7 yn Tsieina, sydd wedi comisiynu cyfres o wyth rhaglen.

Sefydlwyd brand Fferm Ffactor yn wreiddiol gan gwmni Good Company Productions o Iwerddon ar gyfer sianel TG4. Aeth Cwmni Da ati i ddatblygu’r fformat cyn darlledu am y tro cyntaf yn 2009, ac ers hynny mae Cwmni Da wedi cyd-weithio gyda’r cwmni Gwyddelig a chwmni dosbarthu Nordic World i werthu’r fformat i wledydd eraill.

Mae'r cam diweddaraf yma yn cyflwyno'r fformat i wlad Asiaidd am y tro cyntaf - gwlad fwya' boblog y byd, sy'n cyflogi dros 300 miliwn o ffermwyr, a'r wlad sydd â'r mwya' o ddefaid yn y byd!

"Mae’n amlwg fod amaethyddiaeth yn bwysig iawn i Tsieina," meddai Cynhyrchydd Fferm Ffactor, Non Griffith. "Tyda ni ddim yn siwr iawn eto pa fath o dasgau fydd Cynhyrchwyr Tsieina am eu gosod ar gyfer y cystadleuwyr ond rydym yn edrych ymlaen at gael gwybod mwy am hynny yn y misoedd nesaf."

Mae'n gam cyffrous wrth i wylwyr yng Nghymru edrych ymlaen at ddechrau'r bumed gyfres ar S4C nos Fercher 16 Hydref, 7.30. Bob blwyddyn mae cyfres Fferm Ffactor ar S4C yn ymestyn ac yn tyfu, gan godi gêr a chodi'r pwysau. Mae'r un peth yn wir am y gyfres eleni oherwydd am y tro cyntaf bydd y rhaglenni yn ymestyn i slot awr o hyd - gyda mwy o amser i holi, profi a herio'r deg ffermwr.

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Mae gan Fferm Ffactor ddilyniant mawr ymhlith gwylwyr S4C ac ry' ni'n edrych ymlaen at groesawu’r gyfres i'r sgrin am y pumed tro. Mae apêl y fformat yn eang ac mae ganddi'r potensial i ddatblygu ac addasu ar gyfer y gynulleidfa, sy'n ei gwneud hi'n gyfres ddeniadol i ddarlledwyr rhyngwladol. Rydym yn falch bod rhaglenni sydd yn cael eu cynhyrchu a'u datblygu yng Nghymru yn cael eu cydnabod yn y modd yma, ac yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws y byd."

Yn 2012, fe gyhoeddwyd bod cynhyrchwyr mewn chwe gwlad Ewropeaidd wedi prynu'r hawl i greu eu fersiynau eu hunain yn Ffrainc, Yr Almaen, Sweden, Norwy, Denmarc a Ffindir. Bydd sianel DR Denmark yn darlledu eu fersiwn nhw yn ystod hydref 2013, ac mae opsiwn ar y fformat hefyd wedi ei werthu i Seland Newydd.

Ewch i s4c.co.uk/ffermffactor i ddysgu mwy am y gyfres ar S4C ac i ddod i adnabod y 10 ffermwr sydd wedi derbyn yr her eleni.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?