S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Blaenoriaeth i blant ar S4C

14 Hydref 2013

Dros y misoedd nesaf mae llond gwlad o raglenni newydd i blant yn dechrau ar S4C; dwy gyfres Gymraeg newydd sbon ac addasiadau o gartwnau rhyngwladol hefyd.

Y ddwy gyfres newydd ydy Tref a Tryst, cynhyrchiad Boom Pictures Cymru a Straeon Tŷ Pen, cynhyrchiad Ceidiog Cyf.

Trystan Ellis-Morris, cyflwynydd ar wasanaeth Cyw, a chi pyped drygionus o'r enw Tref ydy sêr Tref a Tryst; cyfres fydd ymlaen am 4.35pm bob dydd Iau o 24 Hydref. Ar y gyfres sy'n addas i blant hyd at 8 oed bydd cyfle i wylwyr gystadlu mewn gêm gyfrifiadurol fyw o'r enw 'Sawl Selsig?'. Yn y gêm sy'n defnyddio technoleg llais arloesol mae'n rhaid i'r plant ddewis un o bedwar ci, Dot, Stwffin, Fflwff neu Triog, a gweiddi ei enw mor uchel â phosib. Yr uchaf mae'r plentyn yn gweiddi enw'r ci y cyflyma mae'n symud ar draws y sgrin gan gasglu selsig ar ei ffordd! Bydd digon o gyfle i blant gymryd rhan ac ennill gwobrau gwych bob wythnos ar Tref a Tryst.

Straeon gwreiddiol ac amrywiol yn cael eu hadrodd gan actorion a diddanwyr adnabyddus o Gymru ydy Straeon Tŷ Pen. Mae Steffan Rhodri, Mari Lovgreen a Caryl Parry Jones ymysg y rhai fydd yn mynd ati i ddweud stori ar y gyfres fydd ymlaen am 8.10am bob dydd Mawrth o 15 Hydref ymlaen. Bydd darluniau arbennig gan artistiaid fel Laurent Durieux a David Boyle yn ymddangos ar y sgrin hefyd a'r storïwr yn camu i mewn i'r byd dychmygol!

Ac mewn ymdrech i ddod â brandiau rhyngwladol enwog i'r Gymraeg er mwyn i blant Cymru gael mwynhau'r cartwnau gwych hyn yn eu mamiaith, mi fydd cyfresi Sara a Cwac (Sarah and Duck) a Tatws Newydd (Small Potatoes) yn cychwyn ar y Sianel yr hydref hwn.

Cwmni Antena sydd yn gyfrifol am addasu'r cartŵn hoffus Sara a Cwac sy'n dilyn merch fach chwilfrydig a'i ffrind gorau, yr hwyaden. Mi fydd y gyfres ymlaen bob dydd Llun am 8.35am o 21 Hydref. Cwmni Da sydd wedi addasu Tatws Newydd, cartŵn sy'n llawn caneuon hapus sy'n dysgu'r gynulleidfa ifanc am bopeth o ddychymyg i waith celf a thymhorau'r flwyddyn. Wyth o blant o Ysgol Berfformio Glanaethwy ym Mangor sy'n lleisio'r tatws yn Tatws Newydd.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys a rhaglenni plant S4C:

“Gobeithio y bydd plant wrth eu boddau gyda’r amrywiaeth o raglenni newydd a chymeriadau direidus fydd yn ymddangos ar Cyw yn ystod y tymor. Mae ‘na straeon ffraeth, animeiddiadau hyfryd, ci pyped sy’n ges a hanner a hyd yn oed tatws talentog sy’n canu a dawnsio. Rhaglenni sy’n mynd i fyd plentyn bach ac yn cynnig adloniant pur. Mae S4C yn trio cynnig rhywbeth i bawb ac mae plant yn ganran bwysig o'n cynulleidfa ni felly gobeithio y bydd y cyfresi newydd yn plesio. ”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?