S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llwyddiant i ffilm S4C yng ngwobrau It’s My Shout

14 Hydref 2013

Mae S4C wedi llongyfarch enillwyr gwobrau It’s My Shout yn dilyn seremoni flynyddol 2013 y cynllun.

Eleni oedd y flwyddyn gyntaf i S4C gymryd rhan yn y cynllun, gan gynnig cyfleoedd i ddau awdur a dau gyfarwyddwr newydd i ddatblygu eu sgiliau.

Enillodd un o ffilmiau S4C, Gadael Sneggi a ysgrifennwyd gan Ciron Gruffudd ddwy o brif wobrau’r cynllun – sef gwobr Y Ffilm Orau a gwobr y Cyfarwyddwr Gorau i Mared Swain.

Meddai Comisiynydd Cynnwys S4C, Gwawr Martha Lloyd: “Llongyfarchiadau mawr iawn i holl enillwyr gwobrau It’s My Shout eleni, ac mae hi’n arbennig o dda i weld bod yr awduron a chyfarwyddwyr y mae S4C wedi buddsoddi ynddyn nhw wedi profi’r fath lwyddiant.

“Roedd S4C yn arbennig o falch o fedru cydweithio gydag It’s My Shout i ddatblygu talent newydd a chydweithio gyda chymunedau ar draws Cymru wrth wneud hynny. Mae’n ymddangos bod ein hymdrechion wedi bod yn llwyddiannus, gan adael gwaddol gwerthfawr ar gyfer dyfodol drama yn y Gymraeg.”

Diwedd

Ceir mwy o fanylion am y cynllun ar wefan It’s My Shout - www.itsmyshout.co.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?