23 Hydref 2013
Yn dilyn marwolaeth sydyn prop clwb rygbi Pontypridd, Stuart Williams, mae gêm Uwch Gynghrair y Principality rhwng Castell-nedd a Phontypridd nos Sadwrn wedi ei gohirio. Bydd S4C felly’n dangos gêm Llanelli v Aberafan o Barc y Scarlets nos Sadwrn (26 Hydref) am 6.45pm.