S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu rhaglenni arlein gyntaf

25 Hydref 2013

Yr wythnos hon bydd S4C yn torri tir newydd wrth ddarlledu rhaglen arlein cyn iddi gael ei darlledu ar y Sianel deledu. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r Sianel ryddhau un o'i rhaglenni arlein cyn y darllediad ar y sgrin.

Y gyfres sydd wedi ei dewis ar gyfer yr arbrawf yw Y Lle: Ochr 1, cyfres gerddoriaeth a gynhyrchir gan gwmni Antena. Mae'r gyfres ddiweddaraf yn dechrau ar S4C nos Fercher 30 Hydref am 10.00pm, ond bydd modd ei gwylio bedwar diwrnod cyn hynny ar Clic, gwasanaeth ar-alw'r Sianel ar y we.

Bydd hanes yn cael ei greu nos Sul 27 Hydref wrth i'r rhaglen fod ar gael gyntaf ar s4c.co.uk/clic o 9.00pm ymlaen.

Wrth i'r nifer o bobl ifanc sy'n gwylio'u hoff raglenni arlein ar ddyfeisiadau symudol gynyddu, y gobeithio yw y bydd y fenter hon yn sicrhau bod cynnwys S4C i bobl ifanc ar gael yn y llefydd mwyaf addas ac y bydd yn tanio trafodaethau ar ffyrdd amrywiol o ddarlledu.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

"Mae natur darlledu yn newid yn gyflym ac mae'n hanfodol ein bod ni'n addasu ac yn symud gyda'r newid hefyd. Mae eistedd i lawr i wylio'r teledu ar amser penodol yn prysur droi'n rhywbeth hen ffasiwn yng ngolwg rhai rhannau o’r gynulleidfa.

"Bydd yn ddiddorol gweld ymateb y gynulleidfa i'r newid a gweld wedyn a fydd y math yma o drefniant yn fwy addas i gynulleidfa iau Ochr 1, gan gofio fod ambell un ohonom dros hanner cant yn mwynhau'r gyfres sydd yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth amgen, roc a phop o bob cwr o Gymru.

“Mae’r amserlen draddodiadol yn dal i fod yn bwysig i gyfran fawr iawn o’n cynulleidfa wrth gwrs, ond mae S4C yn benderfynol o symud gyda’r oes ac addasu ein cynlluniau ni i gyd-fynd â dymuniadau’r gwylwyr.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?