S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ychwanegu sioe arall i'r daith Nadolig: pluen yn het Cyw!

05 Tachwedd 2013

   Yn dilyn galw aruthrol am docynnau i weld Sioe Nadolig Cyw S4C mae'r cynhyrchwyr wedi ychwanegu sioe arall i'r rhestr o berfformiadau.

Cyntaf i'r felin felly i brynu tocynnau i'r perfformiad ychwanegol a gynhelir yn Ysgol Gyfun Llangefni ar Ddydd Mawrth 17 Rhagfyr am 4.30pm. Mae neuadd yr ysgol yn dal 500 a bydd y tocynnau ychwanegol ar werth o fore Mawrth (5 Tachwedd) ymlaen.

"Unwaith eto mae ymateb a brwdfrydedd teuluoedd Cymru i Sioe Nadolig Cyw wedi bod yn syfrdanol, gymaint fel bod sioeau Galeri wedi gwerthu allan yn syth nôl ym mis Gorffennaf!" meddai Stifyn Parri, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni MR PRODUCER sy'n cynhyrchu a threfnu'r daith ar ran S4C eleni.

"Roedd dewis lle i osod y sioe ychwanegol yn anodd iawn, ond teimlwn mai dyma'r lleoliad gyda'r mwyaf o alw ac sydd yn gweithio orau gyda'r amserlen dair wythnos ledled Cymru."

Mae Sioe Nadolig Llawen Cyw ar daith rhwng dydd Iau, 5 Rhagfyr a dydd Sadwrn, 21 Rhagfyr mewn Ysgolion Uwchradd a Theatrau ledled Cymru. Eleni mae'r tocynnau ar werth i bawb, felly gall aelodau o’r cyhoedd yn ogystal â grwpiau o ysgolion cynradd, meithrin a grwpiau chwarae fynychu perfformiad sy’n lleol iddyn nhw. Mae'r cynhyrchwyr eisoes wedi ychwanegu perfformiad arall yn Galeri Caernarfon gan fod tocynnau i'r sioeau gwreiddiol i gyd wedi'u gwerthu.

O fewn y tair wythnos bydd y sioe yn ymweld â Chaerdydd, Cwm Rhymni, Abertawe, Ystalyfera, Caerfyrddin, Aberteifi, Aberystwyth, Pontrhydfendigaid, Llangefni, Rhuthun, Y Bala, Pwllheli a Chaernarfon. I weld rhestr llawn o'r perfformiadau ewch i s4c.co.uk/caban.

Am ragor o fanylion, ac i brynu tocynnau i unrhyw sioe ac eithrio’r sioe yn Abertawe, dylid cysylltu â Galeri Caernarfon trwy ffonio 01286 685 222 neu gellir prynu tocynnau ar eu gwefan, galericaernarfon.com

I brynu tocynnau ar gyfer Sioe Nadolig Cyw yn Theatr Taliesin, Abertawe ar 7 Rhagfyr dylid cysylltu â swyddfa docynnau Theatr Taliesin trwy ffonio 01792 602060 neu gellir prynu tocynnau ar eu gwefan, taliesinartscentre.co.uk

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?