S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn croesawu'r Ysgrifennydd Gwladol Maria Miller i'w phencadlys

13 Tachwedd 2013

Mae Prif Weithredwr S4C a Chadeirydd Awdurdod y Sianel wedi croesawu Ysgrifennydd Gwladol Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, wrth iddi ymweld â phencadlys S4C heddiw (Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2013).

Yn dilyn cyfarfod adeiladol gyda Huw Jones ac Ian Jones, fe gafodd Maria Miller AS gyfle i weld darlledu Cymraeg ar waith wrth ymweld ag adrannau unigol y sianel.

Yn ôl Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, roedd yn falch iawn o allu croesawu Maria Miller a chael trafod gwaith a dyfodol y Sianel â hi.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

"Roedd yn bleser mawr inni allu croesawu'r Ysgrifennydd Gwladol i S4C ac i roi cyfle iddi weld rhywfaint o waith a chynnyrch y Sianel. Roedd yn gyfle da hefyd i drafod y gwasanaeth a'n gweledigaeth.

"O gofio pwysigrwydd cefnogaeth statudol ac ariannol Llywodraeth y DU i waith S4C, mae'n bwysig inni gyfathrebu'n gyson gyda'r Ysgrifennydd Gwladol a sicrhau ei bod yn ymwybodol o hyd a lled y gwaith sy'n cael ei wneud ar gyfer y Sianel, a beth yw effaith y gwaith hwnnw ar yr iaith a'r economi. Mae ei hymweliad heddiw wedi bod yn gyfraniad defnyddiol i'r broses honno.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau â pherthynas agored â'r Ysgrifennydd Gwladol a'i hadran, ac at weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?