S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Noson Gwylwyr S4C yng Nghaerffili

15 Tachwedd 2013

Gyda rhai o raglenni uchaf eu proffil S4C wedi eu darlledu yn ddiweddar mae hi wedi bod yn gyfnod llawn uchafbwyntiau i’r Sianel. Ond beth yw eich barn chi am raglenni S4C a’r gwasanaethau mae’n eu cynnig?

Bydd noson gwylwyr S4C yn cael ei chynnal nos Lun, Tachwedd 18 am 7:00yh yng Nghlwb Golff Parc Virginia yng Nghaerffili.

Fe fydd gwylwyr yn cael cyfle i fynegi eu barn am raglenni a gwasanaethau S4C yn ogystal â dweud eu dweud am yr hyn maent yn dymuno gweld ar y Sianel yn y dyfodol.

Bydd cyfle i rannu sylwadau gyda Phrif Weithredwr S4C, Ian Jones, a Chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.

Yn ddiweddar fe gychwynnodd y gyfres dditectif hir disgwyliedig S4C, Y Gwyll/ Hinterland - gan ennill gryn dipyn o sylw yng Nghymru a’r tu hwnt. Hefyd, darlledwyd rhaglen ddogfen am drychineb Senghennydd ganrif yn ôl, a chyfres hanes byw cyntaf erioed y sianel, Y Plas ym mis Hydref. Mae’r noson gwylwyr yn gyfle i rannu’ch barn am y rhaglenni hynny, neu unrhyw elfennau eraill o wasanaeth S4C.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y noson ac fe ddarperir system ddolen sain ac offer cyfieithu.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gwifren gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 neu gwifan@s4c.co.uk.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?