S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gafael yn dy gragen – mae’r Crwbanod Ninja ar fin glanio

25 Tachwedd 2013

 Yr wythnos hon bydd pedwar crwban arbennig iawn yn ymgartrefu ar S4C.

Mae cyfres Crwbanod Ninja, addasiad Cymraeg o Teenage Mutant Ninja Turtles yn dechrau ar y Sianel nos Iau (28 Tachwedd) am 6.05pm.

Mae’r Crwbanod Ninja, a grëwyd yn wreiddiol ar ffurf comic nôl ym 1984 yn dilyn hynt a helynt Leonardo, Michaelangelo, Donatello a Raphael, pedwar crwban mwtant sydd wedi cael eu hyfforddi i ymladd mewn arddull ninjutsu gan y llygoden fawr, Sgrygyn.

Pan mae Sgrygyn yn caniatáu i’r Crwbanod Ninja adael eu ffau yn nraeniau’r ddinas mae’r pedwar brawd yn gweld sut le yw’r byd go iawn; lle sy’n llawn o ddihirod hynod ddychrynllyd a pizzas hynod flasus!

Yn ôl Emyr Roberts, cyfarwyddwr trosleisio’r gyfres gyda chwmni Lefel 2, hwn yw un o’r prosiectau mwyaf cyffrous iddo weithio arno erioed.

“Mae pawb sydd yn gweithio ar y prosiect wedi eu cyffroi gyda'r Crwbanod! Yn wir, ers gweithio fel cyfarwyddwr trosleisio, a hynny am flynyddoedd bellach, gallaf ddweud a fy llaw ar fy nghalon mai dyma'r cynhyrchiad sydd wedi cael pawb sy'n cyfrannu yn gwirioni fwyaf. Boed hynny fel rhywun a'u gwyliodd yn eu plentyndod neu sydd â phlant eu hunain sydd yn meddwl bod y ffaith bod dad yn gweithio ar y Ninja Turtles yn awesome!” meddai Emyr Roberts,

“Mae o'n bleser dod i'r gwaith gyda'r ffasiwn frwdfrydedd, a gyda'r ffasiwn griw, yn sgriptiwr a chast.”

Mae’r criw lleisio yn cynnwys Llŷr Evans, Rhodri Meilir, Rhydian Lewis, Dyfrig Evans, Rhodri Evan, Aneirin Hughes, Manon Wilkinson a Hefin Wyn.

Dewi Prysor, yr awdur a’r hanesydd o Drawsfynydd, sydd wedi bod wrthi’n brysur yn addasu’r gyfres i’r Gymraeg.

"Tydi tafodiaith stryd Efrog Newydd ddim yn gweithio yn y Gymraeg, wrth gwrs, felly mi oedd rhaid rhoi tafodiaith Gymraeg drefol, naturiol iddyn nhw, gan wneud hynny heb golli'r agwedd a'r slicrwydd a'r 'cŵl' - a heb amharu ar gymeriadau'r crwbanod eu hunain,” meddai Dewi Prysor. “Ond fel tad i feibion yn eu harddegau, doedd hynny ddim yn anodd i mi.”

"Mae hi'n gyfres gyffrous, slic a blaengar sydd hefyd yn drawiadol iawn yn weledol. Yn fwy na hynny, mae hi'n hynod ddigri, gyda'r hiwmor hwnnw a'i elfennau tywyll a slapstic, yn apelio'n berffaith imi. Gofynnwch i fy nheulu ac mi fyddan nhw'n dweud wrthych chi eu bod yn clywed ffitiau piws o chwerthin a gigyls afreolus yn dod o'r stafall lle dwi'n gweithio!"

Pam bod S4C wedi penderfynu comisiynu’r addasiad felly?

“S’dim dwywaith bod y Crwbanod Ninja yn un o’r cyfresi mwya’ eiconig erioed a dyma gyfle i genhedlaeth newydd fwynhau anturiaethau’r pedwar crwban anhygoel, a hynny yn Gymraeg,” meddai Sioned Wyn Roberts, comisiynydd rhaglenni plant S4C. “Y peth anodda’ oedd penderfynu sut i gyfieithu’r teitl!”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?