S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Disgyblion yn ymweld a'r Cynulliad Cenedlaethol i fynegi eu barn

02 Rhagfyr 2013

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Plant fe aeth disgyblion o wyth ysgol dros Gymru i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal trafodaeth ar rhai o bynciau sy’n berthnasol i bobl ifanc Cymru.

Fe gafodd y drafodaeth ei chynnal yn Siambr Tŷ Hywel ar Ddydd Mercher 20 Tachwedd fel rhan o gynllun sydd wedi cael ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng S4C, ITV Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i roi siawns i bobl ifanc gael blas ar wleidyddiaeth a democratiaeth ar waith.

Yn y drafodaeth, a gafodd ei chadeirio gan gyflwynydd Hacio, Catrin Haf Jones fe gafodd bron i 50 o ddisgyblion rhwng 16-18 oed gyfle i drafod a rhannu eu safbwyntiau ar bynciau gan gynnwys bwlio ar-lein, yr iaith Gymraeg a chyfranogiad pobl ifanc i ddemocratiaeth yng Nghymru. Yn dilyn y drafodaeth roedd y disgyblion yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn datganiad am bob pwnc trwy system pleidleisio electroneg y siambr.

Yn arwain at y ddadl yn y Cynulliad Cenedlaethol fe drefnodd S4C sesiwn trafod ym mhob ysgol oedd yn cymryd rhan yn y cynllun.

“Mi aeth hi’n dda iawn ac fe gawsom ni drafodaethau adeiladol ar nifer o bynciau gwahanol,” meddai Elis Roberts, 17, sy’n ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, Sir Fon.

“Dwi’n credu bod pobl ifanc dyddiau hyn yn ffeindio hi’n anodd cael dweud eu dweud. Does dim system amlwg o gysylltu â gwleidyddion felly mae rhaid i bobl ifanc wneud cryn dipyn o waith ymchwil i gael rhannu eu safbwyntiau.”

Mae Brychan Davies,17, o Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman yn credu bod y ddadl wedi bod yn brofiad gwerthfawr iddo:

“Rwy wedi mwynhau'r sesiynau trafod gan fod e’n gyfle gwych i ni ddweud ein dweud a chael pobl yn y cynulliad i wrando arnom ni,” meddai. “Ni ydi’r dyfodol felly mae'n safbwyntiau ni’n bwysig wrth i bobl benderfynu beth sy’n mynd ‘mlaen yn y wlad.”

Yn dilyn y sesiwn trafodaeth cafodd y disgyblion gyfle i gwrdd â gofyn cwestiynau i sawl Aelod Cynulliad cyn cael taith o amgylch y Senedd.

Dywedodd Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a

Phartneriaethau S4C:

“Y bwriad oedd creu cynllun fyddai wir o fudd i bobl ifanc, gan gyflwyno gwerth dadl yn ei’n system democratiaeth iddyn nhw, a rhoi cipolwg ar sut mae’r broses yn gweithio.

“Yn ganlyniad i’r cynllun hwn rwy’n credu bod cannoedd o bobl ifanc trwy gydol Cymru wedi cael profiadau holl bwysig a’r gobaith yw eu bod nawr yn fwy hyderus i leisio eu barn ar faterion cyfoes.

“Rwy’n llongyfarch y rhai sydd wedi cymryd rhan yn yr ysgolion ac yn y Cynulliad Cenedlaethol - mae eu cyfraniadau wedi bod yn adeiladol iawn a phleser oedd gweld eu brwdfrydedd i ddarganfod atebion i rai o faterion mwyaf blaenaf mewn cymdeithas.”

Yr ysgolion a gymerodd rhan oedd:

• Ysgol Maes y Gwendraeth, Llanelli

• Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman

• Ysgol Gymraeg Llangynwyd, Maesteg

• Ysgol David Hughes, Porthaethwy

• Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug

• Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst

• Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan

• Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?