S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn darlledu un o gemau diwrnod mawr y darbis rygbi

03 Rhagfyr 2013

Fe fydd S4C yng nghanol berw diwrnod mawr y darbis rygbi dros gyfnod y Pasg 2014 pan fydd pedwar rhanbarth Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.

Bydd y Gleision yn wynebu’r Scarlets a’r Dreigiau yn herio’r Gweilch yng Nghynghrair y RaboDirect PRO12 ar y maes cenedlaethol ddydd Sul y Pasg 20 Ebrill 2014 yn nigwyddiad ‘Dydd y Farn’.

Bydd S4C yn darlledu’r Dreigiau v Gweilch yn fyw am 4.45pm ar Y Clwb Rygbi. Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch, ynghyd ag isdeitlau Saesneg.

Fe gafodd ‘Dydd y Farn’ ei gyflwyno'r tymor diwethaf pan chwaraeodd y Gleision a’r Dreigiau un o’u gemau ‘cartre’ yn Stadiwm y Mileniwm.

Digwyddiad Pasg 2014 fydd yr ail achlysur mewn cytundeb pedair blynedd rhwng y RaboDirect PRO12, S4C a BBC Cymru Wales i lwyfannu’r gemau darbi yn y stadiwm eiconig.

Fe ddaeth dros 30 mil o ddilynwyr i’r digwyddiad yn gynt eleni pan wnaeth timau’r gorllewin goncro’r dwyrain gyda’r Scarlets yn curo’r Dreigiau a’r Gweilch yn feistri ar y Gleision.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: “Mae tymor y RaboDirect Pro12 yn adeiladu tuag at uchafbwynt cyffrous ac mae digwyddiad Dydd y Farn yn cael ei gynnal ar adeg allweddol wrth i ranbarthau Cymru frwydro am oruchafiaeth yn y tabl Rydym yn falch iawn ein bod yn darlledu yno fel rhan o’r achlysur chwaraeon fawr hon ac yn edrych ymlaen at gynnig yr holl gyffro i gynulleidfaoedd ledled Cymru.”

Ychwanegodd David Jordan, Rheolwr Gyfarwyddwyr y gystadleuaeth, "Ar ôl llwyddiant y digwyddiad cyntaf adeg y Pasg yn gynt eleni, rydym yn edrych ymlaen at bonanza rygbi arall yn y RaboDirect PRO12,”

Mae dau o chwaraewyr Cymru yn edrych ymlaen yn arw at gael chwarae yn y gemau.

Meddai Sam Warburton, blaen asgellwr y Gleision: "Mae darbis y Rabo ymhlith y gemau mwyaf cystadleuol sydd ar gael ar lefel clwb ac fel chwaraewyr rydym ni bob amser eisiau chwarae yn y gemau yma. Mae Dydd y Farn yn ddigwyddiad gwych ar gyfer y ffans ac yn fargen dda i deuluoedd. Dyma ddwy gêm rygbi dan do lle nad oes angen poeni am y tywydd a jest mwynhau’r diwrnod.”

Ychwanegodd wythwr y Dreigiau Toby Faletau: "Fe fydd e’n wych wynebu’r Gweilch yn awyrgylch gyffrous Stadiwm y Mileniwm. Gyda’r pedwar tîm a’u cefnogwyr gwych yma, fe fydd y chwaraewyr yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr achlysur arbennig yma.”

Am fwy o fanylion am y tocynnau, ewch i wefan Undeb Rygbi Cymru, wru.co.uk

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?