S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwenno yw'r ferch gyntaf i ennill teitl Fferm Ffactor

05 Rhagfyr 2013

Wedi wyth wythnos o gystadlu brwd, Gwenno Pugh yw enillydd Fferm Ffactor 2013 - y ferch gyntaf i ennill y teitl yn hanes y gyfres.

Fe lwyddodd Gwenno, sy’n 28 ac yn ffermio defaid, gwartheg a moch gyda'i gwr ar eu ffarm yn Nhalsarnau, Gwynedd, i guro cystadleuaeth gref gan Dewi Thomas a Hefin Jones yn y rownd derfynol ar S4C nos Fercher, 4 Rhagfyr, gan yrru ffwrdd gyda’r brif wobr - cerbyd Isuzu D-max Yukon 4x4 newydd sbon.

Ar ddechrau’r gystadleuaeth fe ddywedodd Gwenno ei bod hi eisiau gweld merch yn cyrraedd rownd derfynol Fferm Ffactor a drwy gydol y gyfres fe dderbyniodd hi ganmoliaeth hael gan y beirniad, Aled Rees a’r Athro Wynne Jones, am ei gallu i droi ei llaw at unrhyw dasg.

“Doeddwn ni ddim yn disgwyl hyn o gwbl. Roeddwn i wedi gobeithio bod y ferch gyntaf i gyrraedd ffeinal Fferm Ffactor ond mae mynd un cam yn bellach ac ennill yr holl beth yn deimlad anghredadwy,” meddai Gwenno, y pumed person i ennill teitl Fferm Ffactor.

“Ar y cyfan, fe ges i adborth reit dda gan y beirniad ond roedd yna rai adegau lle roeddwn i’n meddwl y buaswn i’n mynd adref; yn enwedig ar ôl y dasg beic cwad ac wedi i fy nhîm golli yn y dasg gwneud selsig.”

Yn ystod Fferm Ffactor 2013, a ddechreuodd gyda deg ffermwr dewr yn cystadlu i gyrraedd y brig, gwelsom ni Gwenno yn perfformio’n gryf ar sawl tasg oedd yn amrywio o odro gwartheg i rasio tractorau o amgylch cwrs rhwystrau.

“Mae hi wedi bod yn daith fythgofiadwy a dwi wedi gwneud gymaint o ffrindiau newydd. Braint yw cael bod y ferch gyntaf erioed i ennill teitl Fferm Ffactor,” meddai Gwenno.

Yn ogystal ag edrych am rywun oedd yn gallu disgleirio ar amryw o dasgau gwahanol, roedd y beirniad hefyd yn edrych am berson a fyddai'n adlewyrchu’n dda ar y diwydiant amaeth.

"Mae Gwenno wedi cystadlu’n gryf trwy gydol y gystadleuaeth. Mae hi wedi dod i’r brig yn gyson, ac wedi gorffen y gyfres mewn steil,” meddai un o'r beirniaid, Yr Athro Wynne Jones.

Ac mae ei gyd feirniad Aled Rees, enillydd cyfres gyntaf Fferm Ffactor, yn cytuno:

“Trwy gydol y gyfres mae Gwenno wedi bod yn ddibynadwy. Mae hi’n glod i’r diwydiant, yn enillydd teilwng ac yn wir haeddu ei lle yn oriel anfarwol Fferm Ffactor.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?