S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Robin Goch 3D yn serennu ar S4C y Nadolig hwn

05 Rhagfyr 2013

Ar y cyd gyda chwmni graffeg Rough Collie, sydd wedi ennill BAFTA am eu gwaith animeiddio yn y gorffennol, mae S4C wedi cynhyrchu cyfres o idents Nadoligaidd newydd sbon fydd yn ymddangos rhwng rhaglenni'r Sianel yn ystod tymor y Nadolig.

Mi fydd yr idents, sydd wedi eu hanimeiddio’n 3D, yn ymddangos ar y Sianel yn yr wythnosau sy’n arwain at y Nadolig ac yn cynnwys anturiaethau Robin Goch wrtho iddo hedfan dros dirwedd wedi ei orchuddio ag eira ac wedi ei ysbrydoli gan bentrefi, trefi a mynyddoedd Cymru.

Mae anturiaethau’r Robin Goch yn ystod cyfres yr idents wedi eu selio ar yr hen gerdd werin Gymraeg ‘Robin Goch ar Ben y Rhiniog’ gyda’r bwriad o adlewyrchu’r ysbryd yr Ŵyl ar frand S4C.

Dywedodd Aled Wyn Phillips, Pennaeth Promos ar y Sgrin S4C: “Mae’r Nadolig yn sbarduno pob math o ddarluniau ym meddyliau pob un ohonom.

“Ein gobaith yw cyflwyno'r aderyn bach animeiddiedig yma a'i ddatblygu i fod yn rhan ganolog o ddelwedd y Sianel er mwyn atgyfnerthu cynhesrwydd gwasanaeth S4C dros yr ŵyl.”

Mae uchafbwyntiau amserlen S4C yn ystod tymor y Nadolig eleni yn cynnwys Y Syrcas, ffilm deuluol unigryw sy’n adrodd hanes merch ifanc sy’n ymuno â chyffro hudol y syrcas sydd wedi ymweld â’i thref. Bydd modd i'r holl deulu ymlacio o flaen y teledu ddydd Nadolig i fwynhau'r cynhyrchiad Cymraeg cyntaf o Pedr a’r Blaidd yng nghwmni'r actor enwog Rhys Ifans, a bydd Tudur Owen yn cyflwyno noson yn llawn o chwerthin, tinsel a thrimins yn Sioe Dolig Tudur Owen. Ac i'r rhai ohonoch sy'n hoff o gerddoriaeth bydd Bryn Terfel yn cyflwyno cerddoriaeth glasurol Nadoligaidd wrth adrodd stori'r geni yng nghwmni gwesteion arbennig ar Nadolig Bryn Terfel.

Cliciwch yma i fynd draw i wefan Caban S4C i weld lluniau o'r promo Nadoligaidd.

Cymerwch olwg ar amserlen lawn S4C i weld yr holl raglenni sydd i'w mwynhau ar y Sianel dros y Nadolig.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?