S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cofio Mandela ar S4C

06 Rhagfyr 2013

Yn sgil y newyddion am farwolaeth cyn Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, fe fydd amserlen S4C yn newid i gynnwys yr ymateb o Gymru a thu hwnt.

Yn dilyn y rhaglen Newyddion arbennig a fu ar S4C neithiwr, bydd Newyddion 9, a rhaglenni newyddion eraill S4C yn cynnwys ymateb llawn i farwolaeth Nelson Mandela heddiw a dros y dyddiau nesaf gyda bwletinau estynedig.

Bydd S4C hefyd yn darlledu'r rhaglen Mandela ar ôl Newyddion 9 heno. Bydd y rhaglen ddogfen sydd wedi’i chynhyrchu gan ITV Cymru yn edrych yn ôl ar fywyd eithriadol Nelson Mandela, gan bwyso a mesur ei gyfraniad i’w wlad, ac i’r byd.

Bydd rhaglen gylchgrawn Heno hefyd yn rhoi sylw i'r newyddion ar y rhaglen heno, a bydd yr opera, Trioleg Mandela yn cael ei darlledu nos Sul 8 Rhagfyr am 9.30pm.

I weld yr amserlen ddiweddaraf ewch i s4c.co.uk.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?