S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynllun newydd gan S4C i weddnewid hysbysebion ar y Sianel

20 Rhagfyr 2013

Mae S4C wedi cyhoeddi cynlluniau i weithio gyda hysbysebwyr a darpar hysbysebwyr i weddnewid y ffordd y mae’r Sianel yn dangos hysbysebion.

Fe fydd y cynllun yn golygu llai o hysbysebion yn ystod rhai cyfnodau ar S4C – gyda dim hysbysebion o gwbl yn ystod rhaglenni plant y Sianel ar wasanaethau Cyw a Stwnsh.

Fe fydd y drefn newydd yn ystod rhaglenni plant ar waith o fewn chwarter cyntaf 2014, gydag arbrawf tebyg yn cael ei gynnal hefyd wrth ddarlledu’r ffilm deuluol Y Syrcas ar Ŵyl San Steffan.

Nod y cynllun yw gosod strwythur newydd i hysbysebion ar y Sianel fydd yn cwrdd â gofynion hysbysebwyr a’r gwylwyr yn effeithiol, ac adlewyrchu dulliau amrywiol y gynulleidfa o wylio.

Mae’r Sianel yn credu bod hwn yn gam pwysig a fydd yn rhoi S4C ar flaen y gad wrth wynebu heriau hysbysebu yn yr oes ddigidol, ac yn diogelu incwm masnachol y Sianel.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae’r her i ddarlledwyr yn amlwg – dal i wneud yn fawr o’r cyfleoedd i werthu gofod hysbysebu, ond gwneud hynny gan gymryd i ystyriaeth y ffaith bod arferion y cyhoedd o wylio rhaglenni yn newid.

“Erbyn hyn, wrth i bobl wylio ar-lein, a defnyddio peiriannau recordio i wylio rhaglenni ar ôl y darllediad gwreiddiol, dyw hysbysebion teledu ddim mor amlwg i’r gynulleidfa ag yr oedden nhw yn y gorffennol. Felly mae’n bryd inni weithio gyda’n hysbysebwyr a darpar-hysbysebwyr i gael hyd i ffyrdd o gwrdd â’u gofynion yn well.

“Yn S4C, rydyn ni’n ymwybodol y bydd hyn yn golygu newidiadau mawr a allai drawsnewid y farchnad hysbysebu, ond rydym yn agored i bob syniad. Yn y lle cyntaf, ac fel arwydd o’n bwriad yn hyn o beth, fe fyddwn ni’n dod â hysbysebion i ben yn ystod oriau plant y Sianel. Mae hyn mewn ymateb i adborth rhieni sy’n dweud eu bod yn gwneud i blant droi at sianeli eraill. Byddwn ni hefyd yn arbrofi trwy beidio â hysbysebu o gwbl yng nghanol y ffilm deulu Nadolig, Y Syrcas. Yn ogystal â’r newidiadau hyn, fe fyddwn ni’n barod i arbrofi gyda dulliau newydd o ddarparu hysbysebion yn fwy effeithiol.

“Does dim pwynt i ni fel darlledwr eistedd yn ôl a gwylio’r incwm hysbysebu yn lleihau’n anochel oherwydd newidiadau yn y dechnoleg ac yn arferion gwylio’r cyhoedd. Rydym ni am fod ar flaen y gad a cheisio torri tir newydd a chael hyd i ffyrdd a fydd yn sefydlogi incwm hysbysebu at y dyfodol.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?